Adolygiad o'r Canllawiau Cynllunio Atodol
Y sail ar gyfer gwneud penderfyniadau yw’r polisïau a’r cynigion yn y CDLl sydd wedi’i fabwysiadu. Fodd bynnag, mae angen ac mae’n wir yn arfer da mewn rhai achosion i bolisïau a chynigion gael eu hategu gan CCA sy’n rhoi cyngor manylach a gwybodaeth ategol ar eu gweithredu. Mae Atodiad 2 o’r CDLl yn nodi tabl o CCA i’w adolygu ynghyd ag amserlenni fel y nodir isod.
SPG Topic Tabl Cymraeg (Dangosyddion monitro ar gyfer Paratoi Nodiadau Canllawiau Cynllunio Atodol)
Mewn rhai achosion bydd CCA presennol yn cael ei adolygu ac mewn achosion eraill bydd CCA newydd yn cael ei baratoi. Ym mhob achos bydd CCA drafft yn cael ei gymeradwyo gan Grŵp Strategaeth Cynllunio er mwyn cynnal ymgynghoriad cyhoeddus. Bydd sylwadau yn cael eu hystyried gan y Grŵp Strategaeth Cynllunio yn nhermau’r angen i wneud newidiadau i’r CCA drafft. Bydd fersiwn terfynol o’r CCA yn cael ei adrodd i’r Cabinet ar gyfer ei fabwysiadu’n ffurfiol fel CCA. Unwaith y bydd wedi’i fabwysiadu, bydd bob CCA o bwys fel ystyriaeth gynllunio berthnasol. Mae’r dull hwn yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru.
Ymgynghoriad presennol ar y CCA:
Mae’r nodyn canllawiau cynllunio interim drafft ar Dai Amlfeddiannaeth wedi ei gyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus yn cychwyn ar 29/08/2025 ac yn dod i ben ar 10/10/2025.
Gwahoddir unigolion a sefydliadau i gyflwyno eu barn ar gynnwys y nodyn canllawiau cynllunio interim drafft.
Mae copïau papur o’r ddogfen ar gael yn Tŷ Dewi Sant, Ewlo a holl swyddfeydd Sir y Fflint yn Cysylltu.
Anogir i chi gyflwyno eich sylwadau yn uniongyrchol trwy
Dylid anfon sylwadau i Gyngor Sir y Fflint erbyn 5.00pm ddydd Gwener 10 Hydref 2025 gan ddefnyddio un o’r dulliau canlynol:
- Llenwi’r arolwg ar-lein ar wefan Cyngor Sir y Fflint yma: https://www.siryfflint.gov.uk/CDLL-TA
- anfon dros e-bost at developmentplans@flintshire.gov.uk
- Yn ysgrifenedig at Andrew Farrow, Prif Swyddog (Cynllunio, yr Amgylchedd a’r Economi), Cyngor Sir y Fflint, Neuadd y Sir, yr Wyddgrug, Sir y Fflint, CH7 6NF
Camau Nesaf
Unwaith y bydd y cyfnod ymgynghoriad cyhoeddus chwech wythnos wedi dod i ben bydd holl sylwadau a gyflwynwyd yn cael eu hystyried gan Swyddogion o ran pa un a yw newidiadau i’r CCAau yn ofynnol neu yn cael eu cyfiawnhau. Bydd adroddiad ar ganlyniad yr ymgynghoriad yn cael ei adrodd i’r Grŵp Strategol Cynllunio i’w gymeradwyo ac yna adroddir i’r Cabinet gyda datrysiad yn ceisio mabwysiadu fel CCA ffurfiol. Bydd pob CCA yn cynnwys manylion yr ymarfer ymgynghori a sylwadau byr ar sut mae’r CCA wedi ei newid. Unwaith y bydd wedi’i fabwysiadu, bydd bob CCA o bwys fel ystyriaeth gynllunio berthnasol.
Ymgynghoriad blaenorol ar CCA: Wedi cau
Mae’r nodiadau Canllawiau Cynllunio Atodol drafft canlynol wedi eu cyhoeddi ar gyfer ymgynghoriad cyhoeddus yn cychwyn ar 23/09/2024 ac yn dod i ben ar 04/11/2024:-
Mae’r dogfennau hyn yn cael eu hystyried trwy’r broses wleidyddol a byddant yn cael eu cyhoeddi maes o law.
Y Rheoliad Cyffredinol ar Ddiogelu Data / Datganiad Preifatrwydd
Mae Cyngor Sir y Fflint yn casglu eich data personol yn rhan o’i dasg gyhoeddus a’i ddyletswydd statudol dan y Ddeddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004 Yn rhan o’r ymgynghoriad ar Nodiadau Canllawiau Cynllunio Atodol mae’r Cyngor yn gofyn am sylwadau gan unrhyw un sydd â diddordeb, gan gynnwys aelodau o’r cyhoedd.
Mae Llywodraeth Cymru yn dweud y dylai holl nodiadau CCA gynnwys Datganiad o Ymgynghoriad a ddylai gynnwys yr holl sylwadau a gafwyd a dangos sut mae’r sylwadau hyn wedi arwain at newidiadau i’r ddogfen. Felly, bydd crynodeb o holl sylwadau yn cael eu cyhoeddi ar wefan y Cyngor fel rhan o’r CCA a fabwysiadwyd, unwaith y bydd y CCA yn cael ei fabwysiadu, fodd bynnag, bydd holl ddata personol yn cael ei ddileu o olwg y cyhoedd.
Ni fydd eich data personol chi’n cael ei rannu gydag unrhyw un arall. Bydd eich data personol chi’n cael ei gadw hyd nes bydd y Cyngor wedi llenwi a mabwysiadu nodiadau CCA yn ffurfiol a bydd yn cael ei ddileu ar ôl hynny. Os ydych chi’n credu bod Cyngor Sir y Fflint wedi camddefnyddio eich data personol ar unrhyw adeg, gallwch chi wneud cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth drwy fynd i’w gwefan nhw neu ffonio eu llinell gymorth ar 0303 123 1113.
I gael rhagor o wybodaeth am sut mae Cyngor Sir y Fflint yn prosesu data personol a’ch hawliau, darllenwch ein hysbysiad preifatrwydd ar ein gwefan - https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Contact-Us/Privacy-Notice.aspx
CCA wedi’i Fabwysiadu:
Mabwysiadwyd ond dogfennau sy'n aros i gael eu fformatio'n ffurfiol:
Rhagor o fanylion i ddilyn