Cynlluniau a pholisïau datblygu
HYSBYSIAD COVID-19
Bydd y Gwasanaeth Polisi Cynllunio yn gweithio o bell hyd y gellir rhagweld. Bydd hyn yn cael rhywfaint o effaith ar ddarpariaeth gwasanaeth. Mae swyddogion yn parhau i ddatblygu’r CDLl i'w archwilio gan y cyhoedd.
Os oes gennych unrhyw ymholiadau neu gwestiynau polisi cyffredinol ynglŷn â'r CDLl, cyflwynwch y rhain ar e-bost un ai yn uniongyrchol i’r swyddog perthnasol (os ydych yn gwybod) neu i’r cyfeiriad e-bost cyffredinol developmentplans@flintshire.gov.uk.
Sgroliwch i lawr ar gyfer y wybodaeth arferol sydd ar gael ar y dudalen hon.
Cynllun Datblygu Lleol
Mae’r Cyngor yn paratoi Cynllun Datblygu Lleol (CDLl) ar gyfer y Sir.
Mynd i dudalen we’r Cynllun Datblygu Lleol
Gynllun Datblygu Unedol Sir y Fflint
CDU Sir y Fflint yw’r cynllun datblygu sydd wedi’i fabwysiadu ar gyfer cyfnod o 15 mlynedd rhwng 2000 a 2015. Nod CDU Sir y Fflint yw darparu fframwaith er mwyn dod i benderfyniadau rhesymegol a chyson ynglŷn â cheisiadau cynllunio ac arwain datblygiad i leoliadau priodol. Mae hwn yn nodi safleoedd lle gellir codi tai newydd, creu gwaith newydd a lle gall datblygiadau eraill ddigwydd, yn ogystal â gosod polisïau i amddiffyn cefn gwlad, cynefinoedd, adnoddau a threftadaeth pwysig. Er bod oes y CDU a fabwysiadwyd wedi dod i ben erbyn diwedd 2015, hwn yw’r cynllun datblygu a fabwysiadwyd ar gyfer y Sir o hyd. Bydd angen sicrhau bod y Cynllun yn cydymffurfio â chanllawiau cyfredol Llywodraeth Cymru ym Mholisi Cynllunio Cymru, y Nodiadau Cyngor Technegol ac unrhyw ganllawiau perthnasol eraill.
Adendwm: Sylwch fod yna wall yng nghopi caled y datganiad ysgrifenedig CDU mewn perthynas â pholisi STR1 - Datblygiad Newydd.Dylai maen prawf (a) y polisi ddarllen:-
“wedi’i leoli yn gyffredinol o fewn ffiniau presennol yr anheddiad, dyraniadau, parthau datblygu, prif ardaloedd cyflogaeth a safleoedd tir llwyd addas a bydd ond yn cael ei ganiatáu y tu allan i'r ardaloedd hyn lle mae'n hanfodol cael lleoliad cefn gwlad agored;”
Mae hyn yn adlewyrchu fersiwn electronig y polisi.Er mwyn eglurder, roedd y geiriau "a safleoedd tir llwyd addas" wedi'u hepgor o'r fersiwn copi caled.
Gweld y Cynllun Datblygu Unedol Sir y Fflint (CDU)
Archwilio neu brynu copi papur o'r cynllun
Mae copïau o’r Cynllun Datblygu Unedol i’w gweld yn:
- Tŷ Dewi Sant, Ewlo.
- Swyddfeydd y Cyngor, y Fflint,
- Swyddfa Sir y Fflint yn Cysylltu, Treffynnon
- Unrhyw lyfrgell (gan gynnwys llyfrgelloedd teithiol)
Tîm Polisi Cynllunio
Dylai unrhyw ymholiadau sy’n ymwneud â'r CDU, CDLl neu faterion polisi cynllunio eraill gael eu cyfeirio at y Tîm Polisi. E-bost: developmentplans@flintshire.gov.uk. Llinell gymorth: 01352 703213.