Yng Nghyngor Sir y Fflint, mae ein gwerthoedd yn greiddiol i bob dim rydym yn ei wneud.
Bob dydd, mae ein gweithwyr yn dangos eu hymrwymiad i’n gwerthoedd yn y gwaith maent yn ei wneud ac wrth ymwneud â’i gilydd a gydag ein cwsmeriaid.
Byddwn yn datblygu ffyrdd cynaliadwy o ddarparu gwasanaethau sy’n bodloni ein hanghenion heddiw ac yn y dyfodol a byddwn yn gweithredu heb oedi os credwn ein bod yn gallu gwneud pethau’n well ar gyfer trigolion Sir y Fflint.
Rydym yn ymroi i greu gweithle sy’n deg ac yn gynhwysol, sy’n croesawu amrywiaeth ac yn cydnabod cyfraniad a photensial pob unigolyn.
Rydym yn gweithio fel un tîm i greu amgylchedd sy’n galluogi ein gweithwyr i weithio’n ddiogel, cadw’n iach a gwarchod eu lles, teimlo o werth a theimlo’n rhan o un sefydliad.
Rydym ni’n frwd dros wneud gwahaniaeth cadarnhaol i Sir y Fflint a’i phobl.
Rydym yn gweithio ar y cyd ag ein cymunedau a’n partneriaid i gyflawni pethau ac rydym yn gwneud yr hyn a ddwedwn rydym am ei wneud.
Rydym yn gweithredu’n gyson, yn deg ac yn meithrin ymddiriedaeth trwy weithredu’n gyfrifol a chynnal perthnasoedd gonest.
Rydym yn cyfrif bod gwerth i bawb ac yn trin pobl ag urddas a phroffesiynoldeb.
Rydym yn gofalu amdanom ni ein hunain, ein gilydd a’r amgylchedd.
Browser does not support script.