Alert Section

Cwestiynau Cyffredin

Faint fydd yn rhaid i mi aros ar y Rhestr Aros?

Yn anffodus fedrwn ni ddim dweud yn iawn faint fydd yn rhaid i chi aros oherwydd bod hynny'n dibynnu ar eich lleoliad chi ar y rhestr ac argaeledd eiddo addas.

Yn aml iawn mae gan ymgeiswyr sy’n hyblyg o ran eu dewis o ardaloedd ac sy’n rhestru mwy o lefydd fwy o siawns o gael eu hailgartrefu, ond hyd yn oed bryd hynny fe all yr amseroedd aros fod yn hir. 

Pa ddewisiadau eraill sydd ar gael i mi?

Yn ôl yr arfer, rydym ni’n annog ymgeiswyr i edrych ar yr holl ddewisiadau sydd ar gael iddyn nhw. Os ydych chi eisoes yn denant tŷ cymdeithasol, fe allwch chi gofrestru ar gyfer Cydgyfnewid yn Homeswapper. Efallai y bydd ymgeiswyr hefyd yn gallu manteisio ar Gynlluniau Tai Fforddiadwy sy’n cael eu rheoli gan Tai Teg. Mae rhagor o wybodaeth am hyn ar gael ar eu gwefan yn www.taiteg.org.uk. Mae eiddo ar osod hefyd yn cael ei hysbysebu ar dudalennau cyfryngau cymdeithasol ein landlordiaid partner. 

Dewis arall ydi rhentu’n breifat. Er bod llawer o ymgeiswyr yn canolbwyntio ar dai cymdeithasol fel datrysiad tai oherwydd diogelwch deiliadaeth ychwanegol a fforddiadwyedd, mae’n bwysig ein bod ni’n darparu cyngor i bawb ar ddewisiadau tai eraill. Mae rhai ymgeiswyr yn dewis edrych ar rentu preifat fel ffordd o osgoi aros yn hir am dŷ cymdeithasol.

Gall ymgeiswyr ddefnyddio adnoddau fel Rightmove a Zoopla yn ogystal â chofrestru gyda chwmni gwerthu tai lleol i edrych ar y farchnad rentu leol. 

Pa newidiadau sydd yn rhaid i mi roi gwybod i chi amdanyn nhw?

Mae’n rhaid i chi roi gwybod i ni am unrhyw newid i’ch manylion cyswllt, manylion eich aelwyd (y bobl rydych chi’n byw efo nhw), eich sefyllfa ariannol a’r cyfeiriadau neu’r ardaloedd yr hoffech chi gael eu hystyried ar eu cyfer. 

Oes modd i chi fy ystyried ar gyfer eiddo gyda mwy o ystafelloedd gwely?

Mae’n bosibl y byddwn yn gallu’ch ystyried ar gyfer eiddo mwy na’ch angen o ran tai, yn amodol ar gynnal gwiriad fforddiadwyedd. Os hoffech chi gael eich ystyried ar gyfer eiddo mwy, gofynnwch am ffurflen incwm a gwariant. Ni fyddwn yn ystyried ymgeiswyr gydag ôl-ddyledion rhent nac ymgeiswyr sy’n derbyn credyd cynhwysol yn unig, gan na fyddai’r eiddo yn cael ei ystyried yn fforddiadwy. 

Cofiwch, os ydych chi’n newid eich cais i gynnwys eiddo mwy, bydd eiddo gyda’r nifer o ystafelloedd gwely sy’n diwallu eich anghenion tai yn dal yn cael ei ystyried yn gynnig rhesymol. Byddwch yn cael eich ystyried ar gyfer eiddo mwy ar ôl i’r swyddogion fynd drwy’r rhestr o’r ymgeiswyr sydd angen eiddo mwy. 

Pan fo cystodaeth/mynediad a rennir wedi’i gytuno arno ar gyfer plentyn, os nad ydi’r rhiant yn derbyn budd-dal plant, ni fydd y plentyn yn cael ei gynnwys fel rhan o’r cais. 

Ydw i’n gallu gwneud cais am gynlluniau gofal ychwanegol?

Mae yna broses ar wahân ar gyfer gwneud cais am gynllun gofal ychwanegol. Mae rhagor o wybodaeth yma: 

https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Housing/Extra-Care-Housing-Welsh.aspx

Sut fyddaf yn gwybod fy mod wedi cael cynnig eiddo?

Pan fyddwn yn gallu cynnig eiddo i chi bydd ein landlordiaid partner yn cysylltu â chi’n uniongyrchol. Byddan nhw’n ceisio cysylltu efo chi dros y ffôn neu e-bost i ddechrau. Os nad ydyn nhw’n llwyddo i gael gafael arnoch chi, byddan nhw’n anfon llythyr o gynnig.

Mae’n bwysig eich bod chi’n rhoi gwybod i’r gofrestr am unrhyw newid i’ch manylion cyswllt. Ar ôl i’r cynnig gael ei wneud i chi bydd gennych chi dri diwrnod gwaith i’w ystyried.

Pan fyddaf yn cael cynnig eiddo, fydd yna ddodrefn a charpedi?

Bydd yr eiddo yn wag a heb loriau. Bydd arnoch chi angen darparu’r rhain eich hunain. Fodd bynnag, yn dibynnu ar eich amgylchiadau, efallai y gallwch wneud cais am gymorth. I gael rhagor o wybodaeth, ewch i;

https://llyw.cymru/cronfa-cymorth-dewisol-daf 

Fydd gan yr eiddo rodfa a/neu ardd?

Dydi bob eiddo ddim yn cynnwys rhodfa a/neu ardd. Bydd gan rai eiddo ardd a rennir (e.e. Llety Gwarchod).

Dw i wedi cael cynnig eiddo, pryd fedraf fynd i’w weld?

Pan fyddwch chi’n cael cynnig eiddo bydd arnoch chi angen derbyn yr eiddo heb weld y tu mewn am y tro. Byddwch yn gallu edrych ar yr eiddo o ochr y ffordd ond, oherwydd gwaith cynnal a chadw, ni fyddwch yn cael mynd i mewn.

Ar ôl i’r gwaith orffen, byddwch yn derbyn gwahoddiad i fynd i weld yr eiddo ac yn gallu derbyn y cynnig yn llawn a llofnodi’r dogfennau perthnasol. Yn anffodus, does dim posib i ni ddweud faint fydd y gwaith cynnal a chadw yn cymryd oherwydd bod hynny’n amrywio o dy i dŷ. Bydd y Swyddog Tai yn cysylltu efo chi pan fydd yn barod.

Rydw i am gael fy nhroed ar yr ysgol eiddo

Mae’r Cyngor yn cefnogi cynllun perchnogaeth tai cost isel, sy’n galluogi pobl sy’n methu â fforddio prisiau’r farchnad dai i fod yn berchen ar eu cartref eu hunain.   Gweinyddir y cynllun ar ran y Cyngor gan Grŵp Cynefin.

Mae’n seiliedig ar yr egwyddor o rannu ecwiti ac yn helpu prynwyr am y tro cyntaf i brynu tai.   Am fwy o wybodaeth am y cynlluniau sydd ar gael, edrychwch ar Dai Fforddiadwy.