Ymgynghoriad ar Ddarparu Cymorth yn ôl yr Angen
Fel rhan o raglen Cefnogi Pobl, mae Sir y Fflint ar hyn o bryd yn comisiynu amrediad o wasanaethau Cymorth yn ôl yr Angen gan nifer o wahanol sefydliadau, gyda’r nod o helpu pobl gadw a chynnal eu tenantiaethau. Rydym nawr yn cymryd y cyfle i adolygu ac ystyried:
- cwmpas y gwasanaethau hyn, er enghraifft, a ydyn nhw’n diwallu anghenion defnyddwyr y gwasanaeth; a
- sut rydym ni’n comisiynu’r gwasanaethau hyn.
Rydym yn ymgynghori i weld a yw’r cymorth yn ôl yr angen rydym ni’n i ddarparu ar hyn o bryd yn:
- cyrraedd y meini prawf a’r flaenoriaeth ar gyfer y rhaglen Cefnogi Pobl; ac yn
- diwallu anghenion ein cymunedau a defnyddwyr ein gwasanaethau.
Gofynnwn i chi dreulio ychydig o amser yn cymryd rhan yn yr ymgynghoriad hwn a rhannu’ch sylwadau â ni.