Alert Section

Hysbysiad Preifatrwydd - Cefnogi Pobl


Beth yw eich Data Personol?
Caiff rheoli data personol ei lywodraethu gan Ddeddf Diogelu Data 2018.  Mae data personol yn golygu data sy'n ymwneud ag unigolyn byw y gellir ei adnabod o’r data hwnnw.Gall y modd i adnabod yr unigolyn fod trwy’r wybodaeth yn unig neu ar y cyd â gwybodaeth arall sydd ym meddiant y rheolydd data neu sy’n debygol o ddod i’w meddiant. 

Pwy ydym ni?
Cefnogi Pobl yw’r rheolydd data.  Golyga hyn mai Cefnogi Pobl sy’n pennu dibenion data personol a'r ffordd y caiff ei brosesu.

Sut fyddwn ni’n prosesu eich data personol?
Mae Cefnogi Pobl yn cydymffurfio â’i rwymedigaethau dan Ddeddf Diogelu Data 2018 drwy gadw data’n gyfredol; drwy storio a gwaredu data’n ddiogel; drwy beidio â chasglu na chadw gormodedd o ddata; drwy ddiogelu data personol rhag cael ei golli, ei gamddefnyddio, ei ddatgelu neu roi mynediad iddo heb awdurdod a drwy sicrhau bod mesurau priodol wedi’u sefydlu i ddiogelu data personol.

Bydd eich data personol chi’n cael ei brosesu gan Cefnogi Pobl er y diben penodol o gofnodi, rhannu ac asesu eich cais am gymorth mewn perthynas â thai.

Mae angen i ni brosesu eich data fel rhan o’r Porth Cefnogi Pobl ac i'ch atgyfeirio am gymorth mewn perthynas â thai.

Bydd Cefnogi Pobl yn cadw eich data am 12 mis yn dilyn cau eich achos.

Bydd Cefnogi Pobl yn rhannu eich data gyda phrosiectau y mae Cefnogi Pobl yn eu hariannu, sefydliadau’r trydydd sector a sefydliadau statudol er mwyn dyrannu cymorth i’r asiantaeth fwyaf priodol.  Efallai y byddwn hefyd yn rhannu eich data ag adrannau mewnol Cyngor Sir y Fflint. Gellir defnyddio eich data hefyd i gynllunio, datblygu a darparu gwasanaethau, gan gynnwys helpu sefydlu gwerth am arian o fewn Cyngor Sir y Fflint.  Yn ogystal, gellir ei ddefnyddio er dibenion ymchwil ac ystadegol lle bo’n briodol gwneud hynny.

Eich hawliau a’ch data personol
Onid ydych chi’n destun eithriad dan Ddeddf Diogelu Data 2018, dyma eich hawliau mewn perthynas â’ch data personol:- 

  • Hawl i ofyn am gopi o’r data personol y mae Cefnogi Pobl yn ei ddal amdanoch chi
  • Hawl i ofyn i Cefnogi Pobl gywiro unrhyw ddata personol os canfyddir ei fod yn anghywir
  • Hawl i ofyn am i’ch data personol gael ei ddileu pan nad oes angen i Cefnogi Pobl ddal data o’r fath mwyach
  • Hawl i ofyn i’r rheolydd data roi eu data personol i wrthrych y data a, lle bo’n bosib, trosi meddiant y data hwnnw yn uniongyrchol i reolydd data arall
  • Hawl, pan fo anghytundeb mewn perthynas â chywirdeb neu brosesu eich data personol, i ofyn am roi cyfyngiad ar brosesu pellach
  • Hawl i wrthwynebu prosesu eich data personol oni fyddwch chi wedi cytuno i hynny dan gontract
  • Hawl i wneud cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth

Manylion Cyswllt a Chwyno
Os teimlwch chi fod Cefnogi Pobl wedi camddefnyddio eich data personol ar unrhyw adeg, gallwch anfon cwyn i Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth drwy ymweld â’u gwefan neu drwy ffonio eu llinell gymorth ar 0303 123 1113.

Dylech gyfeirio unrhyw ymholiadau neu gwynion at Reolwr y Tîm Cyngor a Digartrefedd, Swyddfeydd y Sir, Y Fflint, CH6 5BD Ffôn: 01352 70377

Alun Kime yw swyddog Diogelu Data Cefnogi Pobl, a gellir cysylltu ag ef yn Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NG neu ar e-bost canolfanfusnes@conwy.gov.uk