Alert Section

Strategaeth Tai a Chynllun Gweithredu Sir y Fflint 2019 - 2024


Mae’n bleser gennym gyflwyno’n Strategaeth Tai a Chynllun Gweithredu ar gyfer 2019-2024, sy’n gosod ein huchelgaisi ddarparu tai fforddiadwy a chefnogaeth ar draws Sir y Fflint ar gyfer ein trigolion. Er bod y Cyngor yn wynebu heriausylweddol gyda llai o adnoddau ond gan gyflwyno ‘mwy am lai’, rydym, serch hynny, yn ymroi i’r egwyddor bod cartrefo safon dda wrth wraidd lles unigolion a chymunedol, a byddwn yn parhau i alluogi’r ddarpariaeth o gartrefi priodol afforddiadwy, yn enwedig i’r rhai â’r angen mwyaf.

Mae ein Strategaeth Tai yn gosod sut bwriadwn gyflawni hyn trwy weithio ar y cyd gyda’n partneriaid strategol mewnffordd ddeallus ac arloesol i gyflawni’n huchelgais. O ganlyniad i’r gweithgareddau a amlinellir yn ein Strategaeth Taiflaenorol, cyflawnom dros 400 o gartrefi fforddiadwy newydd gyda’i gilydd at ddibenion rhent a pherchnogaeth. Mae’rStrategaeth newydd yn rhoi manylion ein blaenoriaethau a chamau gweithredu allweddol i gyflawni wrth symud ymlaen,yn ogystal â chydnabod ein cynnydd hyd yma.

Edrychwn ymlaen at gydweithio i gyflawni’n gweledigaeth o ddarparu’r math iawn o gartrefi o safon a’r gefnogaeth fwyafpriodol i fodloni anghenion tai ein trigolion.

Strategaeth Tai aChynllun GweithreduSir y Fflint

Cynllun Gweithredu Strategaeth Tai Lleol Adroddiad Cynnydd Hydref 2020