Alert Section

Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid Cadw mewn cysylltiad


Mae Gwasanaeth Cyfiawnder Ieuenctid a Sorted Sir y Fflint yma i’ch helpu chi. Fel rhan o’n gwaith gyda chi, byddwch yn cytuno gyda chi (ac mewn rhai achosion eich rhieni a gofalwyr) ar y ffordd i gadw mewn cysylltiad â chi.

Rydym yn cadw cofnodion o’n cyswllt gyda chi (wyneb yn wyneb, ffôn, neges destun, WebEx a WhatsApp) ac mae mwy o wybodaeth yn ein Hysbysiad Preifatrwydd.

Mewn rhai amgylchiadau efallai bydd angen i ni rannu gwybodaeth gyda gweithwyr proffesiynol eraill a’ch rhieni neu ofalwyr os ydych chi neu eraill yn rhannu unrhyw wybodaeth (wyneb yn wyneb, ffôn, neges destun, WebEx neu Whatsapp) sy’n ein pryderu ni neu os ydym yn poeni ynghylch eich lles chi neu bobl eraill. Bydd eich gweithiwr yn egluro ‘Cyfrinachedd’ gyda chi.

Fodd bynnag, nid ydym ar gael bob amser. Rydym ond yn gweithio ar ddyddiau ac amseroedd penodol ac weithiau gall eich gweithiwr fod ar wyliau neu’n absennol o’r gwaith yn annisgwyl.

Mae’n bwysig eich bod chi a’ch rhiant neu ofalwr yn gwybod pwy i gysylltu â nhw yn y sefyllfaoedd hyn.

Ein horiau gweithio

Dydd Llun – Dydd Iau 9am- 5pm a Dydd Gwener 9am- 4.30pm
Gallwch ein ffonio ni ar; 01352 701125

Adegau na fyddwn ar gael

Nosweithiau ar ôl 5pm (4.30pm ar ddyddiau Gwener) a thrwy gydol y penwythnos. Dyma yw ‘tu allan i oriau swyddfa’.

Ydych chi’n gweithio dros y penwythnos?

Mae rhai pobl ifanc yn cwblhau gweithgareddau dros y penwythnos – byddwn yn darparu rhywun i chi siarad â nhw os ydych yn cyflawni’r gweithgareddau hyn.

Pwy alla i siarad â nhw os oes gen i bryderon tu allan i oriau swyddfa?

Gwasanaethau Cymdeithasol Plant Sir y Fflint;
0845 053 3116 (Mewn argyfwng yn unig)

Childline; 0800 1111

Heddlu Gogledd Cymru:
999(Mewn argyfwng)
101 (di-argyfwng)

Rydym yn cadw mewn cyswllt gyda’n defnyddwyr gwasanaeth (gan gynnwys rhieni a gofalwyr) mewn ffyrdd amrywiol a all gynnwys;
Yn bersonol (wyneb yn wyneb)
Trwy alwad fideo (WebEx)
Trwy neges destun
Trwy WhatsApp
Trwy'r Post

Bydd eich gweithiwr yn cytuno gyda chi (ac mewn rhai achosion, eich rhiant neu ofalwr) ar y ffordd fwyaf priodol o gadw mewn cysylltiad â chi a nhw. Fodd bynnag, mae rheolau penodol y bydd angen i chi a’ch gweithiwr gadw atynt:

Pethau i’w cofio
o    Nid ydym yn derbyn ymddygiad neu iaith camdriniol, bygythiol neu amhriodol yn bersonol neu drwy unrhyw ddulliau eraill.
o    Peidiwch ag anfon neu rannu deunydd amhriodol.
o    Sicrhewch eich bod yn diweddaru eich ffôn a dyfeisiau symudol gyda'r diweddariadau diogelwch a meddalwedd diweddaraf.
o    Os ydych angen siarad â’ch gweithiwr yn ystod oriau gweithio
ac os nad ydych yn cael ymateb, ffoniwch ein swyddfa.
o    Rhowch wybod i ni os ydych yn newid eich rhif ffôn neu gyfeiriad er mwyn i ni ddiweddaru ein cofnodion.
o    Os ydych yn defnyddio technoleg, sicrhewch eich bod yn deall sut i’w ddefnyddio’n ddiogel