Alert Section

Recriwtio

Mae recriwtio’r bobl iawn yn un o’r ffactorau pwysicaf i ddarparu darpariaeth gofal plant a’r blynyddoedd cynnar o ansawdd uchel yng Nghymru.

Mae gweithlu medrus, llawn cymhelliant sy’n arwain gyda gwerthoedd yn cefnogi dysgeidiaeth, datblygiad a lles plant, ac yn helpu lleoliadau i fodloni gofynion rheoleiddio, cryfhau ymarfer a meithrin ymddiriedaeth gyda theuluoedd a chymunedau.

Recriwtio

Ydych chi angen cefnogaeth i recriwtio? Dyma ganllawiau i recriwtio staff ar gyfer y sector blynyddoedd cynnar a gofal plant.

O Recriwtio i ddiwedd ymsefydlu, yma dewch o hyd i ganllawiau defnyddiol. Dilynwch y ddolen i gael mynediad at Fframwaith Sefydlu Gofal Cymdeithasol Cymru.

Gofal Cymdeithasol Cymru - Canllawiau i Recriwtio'n dda 

Cefnogi Carparwyr Gofal plant gyda'r broses Recriwtio

Mae Gwasanaeth Blynyddoedd Cynnar a Theuluoedd Sir y Fflint wedi ymrwymo i gefnogi darparwyr gofal plant i recriwtio staff blynyddoedd cynnar o ansawdd uchel. Er mwyn helpu i hyrwyddo eich swyddi gwag, rydym wedi datblygu templed swydd wag i chi ei gwblhau. Ar ôl ei dderbyn, gallwn hysbysebu eich swydd wag trwy ein sianeli cyfathrebu, gan gynnwys llwyfannau cyfryngau cymdeithasol, gan eich helpu i gyrraedd cynulleidfa ehangach o ymgeiswyr posibl.

Rydym yn eich annog i ddarparu cymaint o fanylion â phosibl wrth gwblhau'r templed, gan gynnwys gwybodaeth am y rôl, y cymwysterau sydd eu hangen, oriau gwaith, buddion gweithwyr, a'r hyn sy'n gwneud eich lleoliad yn lle gwych i weithio. Mae hysbyseb swydd gynhwysfawr a deniadol yn fwy tebygol o ddenu ymgeiswyr addas a'ch helpu i recriwtio'r ymarferwyr blynyddoedd cynnar cywir i ddiwallu anghenion eich lleoliad.

Am gopi o'r templed anfonwch e-bost at childcare.development@siryfflint.gov.uk

Gwerthuso a Goruchwylio

Mae gwerthusiadau a goruchwylio yn fanteisiol i ymarferwyr a’r tîm rheoli/uwch dîm.

Gallent greu amgylcheddau gweithio cadarnhaol, rhoi gofod ar gyfer cyfathrebu rheolaidd a meithrin perthnasau gwaith. Maent yn diffinio rolau, tasgau, hawliau a chyfrifoldebau’n glir.

Gofal Cymdeithasol Cymru - Canllawiau Gwerthuso a Goruchwylio  

Fframweithiau Sefydlu

Mae Fframwaith Sefydlu Blynyddoedd Cynnar a Gofal Plant Cymru Gyfan yn offeryn i reolwyr i asesu sgiliau, gwybodaeth a phrofiad gweithwyr newydd, a bydd yn helpu i ganfod, cofnodi a chynllunio eu hanghenion datblygu.

Gofal Cymdeithasol Cymru - Fframwaith Sefydlu