Alert Section

Iechyd a Lles

Rydym angen sicrhau dyfodol iach i’r genhedlaeth nesaf. Mae cydweithio gyda rhieni ac ymarferwyr yn sicrhau’r dechrau gorau mewn bywyd i holl blant Cymru.

Mae blynyddoedd cynnar plant yn amser allweddol i ddarparu ymyrraeth a dysgeidiaeth gadarnhaol. Bydd y gwaith hwn yn arwain at ganlyniadau da yn ddiweddarach mewn bywyd gan gynnwys gwell dysgeidiaeth, mynediad at waith da a bywyd boddhaus.

Erbyn 2030 mae Cymru eisiau mwy o blant i fod wedi cyflawni eu llawn botensial.

Hyb ACE Cymru

Cymru sy'n Ystyriol o Drawma - Trauma-Informed Wales

Mae Fframwaith Trawma Cymru yn darparu diffiniad Cymru o ddull sy’n ystyriol o drawma, pum egwyddor a phedwar lefel ymarfer i helpu holl unigolion, cymunedau, sefydliadau a systemau o fewn cymdeithas Gymreig i ddeall ymddygiad fel cyfathrebiad, cydnabod a deall effaith anghydraddoldebau hanesyddol, diwylliannol a rhyw, ac anghyfiawnder cymdeithasol a’u cysylltiad achlysurol gyda phrofiadau trawma.

Cymru sy'n Ystyriol o Drawma - Fframwaith Drawma 

Cyrsiau E-ddysgu - Hyb ACE Cymru 

Cynllun Gwên

Mae Cynllun Gwên yn gweithio gyda theuluoedd, lleoliadau gofal plant a phlant ifanc 0 i 7 oed. Mae’n annog hylendid ceg da.

Mae cefnogaeth lleoliadau gofal plant yn hanfodol i lwyddiant y Cynllun Gwên a gwella iechyd ceg plant yng Nghymru.

Gall leoliadau gymryd rhan mewn nifer o ffyrdd:

  • cymryd rhan mewn rhaglen brwsio dannedd wedi’i oruchwylio
  • cefnogi rhaglen farnais fflwroid
  • darparu gwersi addysg iechyd y geg i blant.

Dilynwch y ddolen i ddarganfod sut all eich lleoliad gymryd rhan.

Y Cynllun Gwên - Iechyd Cyhoeddus Cymru 

Iechyd yr Amgylchedd Sir y Fflint:

Bydd y ddolen hon yn eich helpu chi i ddod o hyd i wybodaeth a chefnogaeth mewn perthynas â hylendid bwyd o fewn eich lleoliad.

Cyngor Sir y Fflint - Cynllun Sgorio Hylendid Bwyd  

Iechyd a Diogelwch - Asesiadau Risg

Dyma ddolen ddefnyddiol a fydd yn eich helpu chi i reoli risgiau yn eich lleoliad; hefyd mae templedi ac enghreifftiau i’ch cefnogi chi.

Yr Awdurdod Gweithredol Iechyd a Diogelwch - Rheoli Risgiau ac Asesiad Risg yn y Gwaith 

Cynllun Cyn Ysgol Iach a Chynaliadwy

Rhwydwaith Ysgolion Cymru sy'n Hybu Iechyd a Lles - Welsh Network of Health and Well-being Promoting Schools

Mae’r cynllun wedi’i dargedu at holl ddarparwyr gofal plant, gan gynnwys grwpiau chwarae, Cylchoedd Meithrin, meithrinfeydd dydd, clybiau ar ôl ysgol a gofalwyr plant, ac mae’n cydnabod bod lleoliadau gofal plant yn gyfranwyr gwerthfawr i iechyd a lles plant.

Bwyd a Maeth - Cyngor Sir y Fflint 

Ysgolion Iach - Cyngor Sir y Fflint 

Cynllun Ysgolion Iach - Iechyd Cyhoeddus Cymru 

Atal a Rheoli Heintiau

Bydd y ddolen ddefnyddiol hon yn darparu cefnogaeth i atal a lleihau lledaeniad heintiau mewn lleoliadau gofal plant.

Atal a Rheoli Heintiau - Gofal Cymdeithasol Cymru 

Stori’r Ymennydd Rhydychen

Mae Stori Ymennydd Rhydychen yn ymwneud â sut mae profiadau’n siapio ein hymennydd. Mae’n stori i bawb, gan ein bod i gyd yn dibynnu ar y rhai o’n hamgylch am y profiadau sy’n creu adeiladwaith ein hymennydd. Dyma’r sylfaen i’r ffordd rydym ni’n dysgu ac yn ymddwyn ac i’n hiechyd yn y dyfodol.

Cyngor Sir y Fflint - Ymenydd Anhygoel eich Plentyn 

Iechyd Cyhoeddus Cymru

Iechyd Cyhoeddus Cymru - Public Health Wales

Nod y ddogfen hon yw rhoi’r canllawiau ymarfer gorau mewn perthynas ag ymarfer atal a rheoli heintiau sylfaenol ymhob lleoliad gofal plant (0-5 oed) yng Nghymru.

Mae iechyd a lles ein plant yn flaenoriaeth. Gwyddwn fod heintiau yn gyffredin yn eu blynyddoedd cynnar, fodd bynnag ar gyfer y mwyafrif mae’r risg o haint difrifol yn isel. Gall heintiau gael eu dal o fewn lleoliadau amrywiol, yn amgylchedd y cartref, lleoliad gofal plant/addysg neu’r gymuned.

Iechyd Cyhoeddus Cymru - Canllawiau ar gyfer lleoliadau gofal plant, cyn-ysgol ac addysgol 

Therapi Iaith a Lleferydd

Mae Therapyddion Iaith a Lleferydd yn gweithio’n agos gyda rhieni / gofalwyr a gweithwyr proffesiynol eraill os oes gan blentyn anawsterau iaith a/neu leferydd, cyfathrebu neu anawsterau bwyta, yfed a llyncu.

Mae gan Sir y Fflint linell gymorth Therapi Iaith a Lleferydd lle bydd rhywun ar gael i ateb unrhyw gwestiynau a chynnig cefnogaeth. 

Ffoniwch 03000 0848179.

Ar agor dydd Mawrth 9-10yb, dydd Iau 3:30-4:30yp.

Boliau Bach

Sgiliau Maeth am Oes - Nutrition Skills for Life

Mae Boliau Bach yn wobr Arfer Gorau i leoliadau gofal plant y Blynyddoedd Cynnar yng Ngogledd Cymru, a reolir gan Dîm Dieteg Iechyd Cyhoeddus BIPBC.

Mae’r wobr yn cydnabod ac yn gwobrwyo’r lleoliadau hyn ar gyfer cyflawni arfer gorau o ran eu darpariaeth bwyd a diod ar gyfer plant 0-1 a 1-4 oed yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru.

Dewch o hyd i gyfoeth o wybodaeth yma. Os oes gennych ddiddordeb mewn cymryd rhan, cliciwch isod.

Sgiliau Maeth am Oes - Gwobr Boliau Bach