Alert Section

Cynllun Cymorth Cartref Clyd


Mae Cyngor Sir y Fflint yn gweithio gyda Wales & West Utilities ar Gynllun Cymorth Cartref Clyd; rydym yn nodi aelwydydd a allai elwa o gysylltiad â’r rhwydwaith nwy ac yn asesu eu cymhwysedd ar gyfer grant tuag at y gost. 
Gall cysylltiad nwy newydd fod o wir fudd i rai gyda biliau gwresogi uchel ac incwm isel. 

Ar gyfer sawl aelwyd, gall newid i system wres canolog nwy gyfrannu’n helaeth at liniaru tlodi tanwydd.  Gall cysylltu â rhwydwaith nwy wella graddfa ynni y cartref a lleihau biliau ynni’n sylweddol.   Rydym wedi ymrwymo i gyfrannu at gysylltu aelwydydd drwy Gynllun Cymorth Cartrefi Clyd. 

Mae angen i’r rhai sy’n dymuno elwa o gysylltiad nwy drwy brif gyflenwad fyw mewn ardal a nodwyd gan y llywodraeth ar gyfer cefnogaeth, byw mewn eiddo sy'n eiddo preifat neu'n eiddo rhent preifat ac yn derbyn budd-daliadau cymwys, neu mewn tlodi tanwydd; lle bo canran uchel o incwm gwario yn cael ei wario ar ddefnydd tanwydd yr aelwyd. 

Gallwn gynorthwyo i nodi a ydych yn debygol o fod yn gymwys ar gyfer grant. 

Grantiau cysylltiad nwy
Ar gyfer sawl aelwyd, gall newid i system wres canolog nwy wella gradd ynni’r eiddo a lleihau biliau ynni’n sylweddol.   Rydym yn gweithio gyda Wales & West Utilities ar Gynllun Cymorth Cartrefi Clyd i ddarparu grantiau cysylltiad nwy i aelwydydd a chyflwyno talebau i gwsmeriaid cymwys.   Yna gellir defnyddio’r rhain yn erbyn cost cysylltiad nwy newydd. 

Pwy sy’n gymwys ar gyfer taleb?
Os ydych chi'n byw mewn eiddo preifat neu eiddo rhent preifat, mae dwy ffordd o gymhwyso ar gyfer taleb cysylltiad nwy: 

  • Eich bod yn byw mewn eiddo preifat neu eiddo rhent preifat ac yn derbyn budd-daliadau cymwys allweddol
  • Eich bod yn denant cymdeithasol, neu’n byw mewn eiddo preifat neu eiddo rhent preifat ac yn gwario cyfran uchel o incwm gwario ar danwydd y cartref. 

Sut mae’n gweithio

  • Llenwi Ffurflen Gais ar gyfer Grant ar-lein ac yna byddwn yn rhoi gwybod heb oedi os ydych yn gallu derbyn cyfraniad tuag at eich cysylltiad nwy
  • Os ydych chi’n gymwys, byddwn yn anfon Taleb Cysylltiad Nwy i dalu tuag at gost y cysylltiad nwy.  Yna dylid anfon y taleb, ac unrhyw daliad ychwanegol sy’n ofynnol, a ffurflen dderbyn dyfynbris wedi’i lofnodi, at Wales & West Utilities a fydd yn trefnu bod eich cysylltiad nwy yn cael ei osod
  • Nodyn pwysig:  Dylech wneud cais am eich cyfraniad tuag at eich cysylltiad nwy CYN i chi dalu Wales & West Utilities am y cysylltiad nwy. 

I gael rhagor o gymorth neu gyngor o ran sut i wneud cais am grant cysylltiad nwy gallwch gysylltu â'r tîm ar 01352 702173 neu lenwi ffurflen ar –lein eich hunan. 

Rhestr o Fudd-daliadau Cymwys 
Os ydych chi’n hawlio unrhyw un o'r budd-daliadau ar y rhestr i fudd-daliadau grant cysylltiad nwy efallai y byddwch yn gymwys i dderbyn grant tuag at gysylltiad nwy newydd. 

  • Credyd Gwarant Pensiwn
  • Lwfans Ceisio Gwaith yn Seiliedig ar Incwm
  • Credyd Treth Gwaith (mae terfyn enillion uwch yn berthnasol) 
  • Credyd Treth Plant (mae terfyn enillion uwch yn berthnasol)
  • Lwfans Cyflogaeth a Chymorth yn Seiliedig ar Incwm
  • Cymhorthdal Incwm
  • Credyd Cynhwysol
  • Gostyngiad i Dreth y Cyngor
  • PIP
  • Lwfans Gweini
  • Lwfans byw i’r anabl Lwfans Gofalwr 

FFURFLEN GAIS AM GRANT

Wales and West logo