Alert Section

Amodau A Thelerau


Mae Cyngor Sir y Fflint yn gwneud ei orau glas i sicrhau mai’r wybodaeth ddiweddaraf a gyhoeddir ar y wefan hon, a’i bod yn gywir, ond nid yw’n derbyn cyfrifoldeb cyfreithiol o ran gwallau a chamgymeriadau. Mae Cyngor Sir y Fflint yn cadw’r hawl i newid cynnwys y wefan yn ddirybudd.

Os yw cynnwys y wefan yn peri pryder ichi, cysylltwch â'r Swyddfa Cyfathrebu Corfforaethol

Hawlfraint

Hawlfraint © Cyngor Sir y Fflint 2005

Mae’r tudalennau hyn wedi’u gwarchod trwy hawlfraint, oni nodir yn wahanol. Ni chaniateir atgynhyrchu cynnwys y wefan oni bo Cyngor Sir y Fflint wedi caniatáu hynny. Mae cyfraith Cymru a Lloegr yn berthnasol i holl gynnwys y wefan. Efallai y bydd awduron unigol yn meddu ar hawliau eiddo deallusol o ran rhan o’r cynnwys.

Logo

Rhaid cael caniatâd Cyngor Sir y Fflint cyn defnyddio logo’r Awdurdod. Dylid anfon ceisiadau i’r perwyl hwnnw at y Rheolwr Cyfathrebu Corfforaethol, Neuadd y Sir, Yr Wyddgrug CH7 6NB; rhif ffôn: 01267 224923 neu e-bost: communication@siryfflint.gov.uk

Gwefannau eraill

Nid ydym yn gyfrifol am ddibynadwyaeth na chynnwys gwefannau y mae modd eu cyrchu trwy ddolenni cyswllt y wefan. Nid ydym o reidrwydd yn eu cymeradwyo. Ni allwn warantu y bydd y dolenni cyswllt yn gweithio gydol yr amser, na sicrhau y bydd y tudalennau cysylltiol ar gael.

Gwarchod rhag firysau

Ymdrechwn hyd eithaf ein gallu i wirio a phrofi cynnwys y wefan gydol yr amser y byddwn yn ei chreu. Argymhellwn eich bod yn defnyddio rhaglen gwrth-firws pan fyddwch yn islwytho deunydd o’r Rhyngrwyd. Nid ydym yn gyfrifol am unrhyw golled, amhariad neu ddifrod a achosir i’ch data neu’ch system gyfrifiadurol pan ddefnyddiwch unrhyw beth sy’n deillio o wefan Cyngor Sir y Fflint.

Ymwadiad

Mae’r wybodaeth, y cynnyrch a’r gwasanaethau sy’n gysylltiedig â gwefan Cyngor Sir y Fflint wedi’u darparu heb unrhyw gyflwyniad na chymeradwyaeth o ran y Cyngor, a heb unrhyw warant boed hynny’n ddatganedig neu’n oblygedig, gan gynnwys y gwarantau goblygedig a ganlyn: bodlonrwydd, safon foddhaol, addasrwydd, nad yw’n torri rhywbeth megis cyfraith neu hawlfraint, cyfaddasrwydd, diogeled a chywirdeb. Ni allwn warantu na chaiff cynnwys y wefan ei darfu ac na fydd camgymeriadau ynddo, na gwarantu y byddwn yn cywiro diffygion. Ni allwn warantu ychwaith bod y wefan hon, na’r gyrrwr y tu ôl iddi, wedi’i heffeithio gan firysau, ac nad ydynt yn adlewyrchu ymarferoldeb, cywirdeb a dibynadwyaeth y deunydd. Ni fydd y Cyngor Sir yn atebol o ran unrhyw golled neu ddifrod, gan gynnwys - heb gyfyngiad - colledion neu ddifrod anuniongyrchol neu ganlyniadol, neu’n digwydd oherwydd y modd y defnyddir data, neu oherwydd na ellir defnyddio data, neu golled elw, yn sgil defnyddio gwefannau Cyngor Sir y Fflint.

Cyfraith Cymru a Lloegr sy’n berthnasol i’r Amodau a Thelerau hyn. Awdurdodaeth llysoedd barn Cymru a Lloegr yn unig a weithredir i ddatrys unrhyw anghytundeb a gyfyd yn ôl yr Amodau a Thelerau.

Datganiad Preifatrwydd

O ran y rhai sy’n manteisio ar wefan Cyngor Sir y Fflint naill ai’n gyffredinol, neu trwy gyfrinair, nid yw’r wefan yn cadw gwybodaeth bersonol. Mae’r wefan yn cadw cyfeiriad IP y defnyddiwr, a’r gyrrwr wedyn yn adnabod y cyfeiriad hwnnw’n awtomatig. Bydd y system yn cofnodi’ch cyfeiriad e-bost ac unrhyw wybodaeth arall y datgelwch inni. Byddwn yn cadw’r wybodaeth yn berchnogol a chyfrinachol. Gellir ei ddefnyddio ar gyfer gwaith adolygu mewnol, ac i’ch hysbysu os yw’r wefan yn cael ei diweddaru. Mae’r datganiad preifatrwydd hwn yn berthnasol i wefan Cyngor Sir y Fflint yn unig.

Arolwg Ordnans

Darperir mapiau'r Arolwg Ordnans ar y wefan hon gan Gyngor Sir y Fflint dan drwydded gan yr Arolwg Ordnans er mwyn iddo allu cyflawni ei swyddogaeth gyhoeddus o sicrhau bod gwybodaeth gyhoeddus a gedwir am y Cyngor ar gael.Dylid defnyddio’r mapiau a ddangosir ar gyfer gwaith ymchwil ac adolygu personol ac ni ddylid eu copïo ar gyfer dibenion eraill. Dylai unrhyw sy’n edrych ar y mapiau gysylltu â hawlfraint yr Arolwg Ordnans (ffenestr newydd) os hoffent drwyddedu gwybodaeth neu ddata’r Arolwg Ordnans ar gyfer eu defnydd eu hunain. Mae atgynhyrchu’r rhain heb awdurdod yn troseddu yn erbyn Hawlfraint y Goron a gallai arwain at erlyn neu achos sifil.