Alert Section

Llifogydd


Os oes ffordd sydd wedi’i effeithio gan lifogydd neu ffos wedi’i gau yn eich ardal, rhowch wybod i ni a byddwn yn cymryd camau i reoli’r broblem lle bynnag gallwn ni.  Gallwch wneud hyn drwy gysylltu â Chanolfan Gyswllt Gwasanaethau Stryd ar 01352 701234.

Os ydych chi'n poeni am lifogydd yn eich ardal, galwch y Llinell Llifogydd ar 0345 988 1188 new fe allwch chi gysylltu drwy ffonio 01352 701234.

Sachau tywod

Os ydych yn byw mewn ardal â pherygl o lifogydd ac yn teimlo yr hoffech gadw ambell fag tywod yn eich cartref fel rhagofal i’w ddefnyddio os bydd llifogydd, gallwch brynu bagiau tywod o siopau nwyddau neu siopau DIY. Mae systemau unigryw eraill ar gael i amddiffyn drysau a brics aer.

Cyfoeth Naturiol Cymru: Perygl llifogydd yn y tymor hir (gwefan allanol).

Nid ydym yn darparu bagiau tywod i eiddo unigol pan fo llifogydd. Yn hytrach, rydym yn defnyddio bagiau tywod yn bennaf i ddiogelu grwpiau o drigolion, trwy ddargyfeirio llif y dŵr a’i arwain at gylïau a thyllau archwilio. Mae hyn yn ein galluogi i amddiffyn strydoedd cyfan, lle y byddai rhoi bagiau tywod i aelwydydd unigol ar stryd yn ddefnydd llai effeithiol o adnoddau.

Paratoi am lifogydd

Yn ystod llifogydd mae'n bosib na fydd gennych drydan, golau, gwres na llinell ffôn. Mi fydd dilyn y camau hyn yn eich helpu i baratoi. Nawr yw'r amser i feddwl amdani - peidiwch ag aros tan i lif ddigwydd.

 Mae Flood Re yn fenter ar y cyd rhwng y Llywodraeth ac yswirwyr. Y nod yw gwneud y rhan sy'n yswirio difrod llifogydd ym mholisi yswiriant y cartref yn fwy fforddiadwy. Darganfyddwch a all Flood Re eich helpu chi (gwefan allanol).

Os ydych chi'n byw mewn ardal lle ceir perygl llifogydd, ystyriwch brynu bagiau tywod neu estyll i gadw dŵr rhag drysau neu friciau awyru. Fel cyngor, nid ydym yn darparu bagiau tywod i anheddau unigol.

Paratowch gynllun llifogydd personol sy'n cynnwys gwybodaeth bwysig y byddai ei hangen arnoch pe bai eich cartref yn dioddef lleifogydd, megis rhifau polisi yswiriant, a manylion cyswllt pobl y gall fod angen cysylltu â nhw mewn argyfwng. Cadwch eich cynllun llifogydd mewn ffolder gwrth-ddŵr a'i roi mewn man diogel sy'n hawdd ei gyrraedd.

Paratoi eich cartref, eich busnes neu eich fferm am lifogydd (gwefan allanol) 

Paratowch becyn llifogydd o bethau hanfodol y byddai eu hangen arnoch yn ystod llifogydd, neu rhag ofn bod rhaid ymgilio, gan gynnwys dillad gwrth-ddŵr cynnes ac unrhyw feddyginiaeth y byddech eu hangen.

Yn ystod llifogydd

Peidiwch â cheisio gyrru neu gerdded drwy lifddwr. Gall chwe modfedd o ddŵr sy'n llifo'n gyflym eich taro oddi ar eich traed, ac mi fydd dwy droedfedd o ddŵr yn ddigon i'ch car arnofio. Mae nifer o bethau ymarferol y mae modd i chi eu gwneud i helpu atal difrod i'ch cartref.

  • Diffoddwch eich cyflenwadau nwy, trydan a dŵr.
  • Plygiwch sinciau a rhowch bethau trwm arnynt i'w cadw i mewn; plygiwch bibellau dŵr i mewn â thyweli neu gadachau, a datgysylltwch unrhyw gyfarpar sy'n defnyddio dŵr, eich peiriant golchi, er enghraifft. Mi fydd y camau hyn yn helpu rhwystro dŵr rhag ddod i mewn i'r eiddo
  • Ceisiwch osgoi cyffwrdd llifddwr lle bo modd, gan mae'n bosib y bydd wedi'i halogi.
  • Peidiwch â gadael eich cartref neu fynd i mewn i lifddwr oni bai bod aelod o'r gwasanaethau brys yn dweud wrthych i wneud.

Gwiriwch wefan y Cyngor www.siryfflint.gov.uk a dilynwch ni ar Twitter @CSyFflint (gwefan allanol) i gael y wybodaeth ddiweddaraf yn ystod llifogydd.

Cyfoeth Naturiol Cymru: Beth i'w wneud cyn, yn ystod ac ar ôl llifogydd (gwefan allanol).

Ar ôl llifogydd

Peidiwch â mynd yn ôl i'ch tŷ tan i'r heddlu neu'r gwasanaethau brys ddweud wrthych ei fod yn ddiogel gwneud hynny.

Cysylltwch â'ch cwmni yswiriant cyn gynted â phosib - mae gan lawer ohonynt linellau ffôn argyfwng 24 awr. Gofynnwch iddynt faint o amser y bydd yn eu cymryd nhw i'ch gweld, a gwiriwch os oes ganddynt gwmni fydd yn glanhau eich ty, neu os bydd angen gwneud hynny eich hunain.