Dysgu mwy am Adroddiad Blynyddol Sicrwydd Rheoleiddio Allanol.
Cyflwyniad
Mae’r Cyngor yn derbyn adroddiadau rheolaidd gan ein rheoleiddwyr allanol, rheoleiddwyr ac archwilwyr eraill, yn cynnwys Archwilio Cymru, Arolygiaeth Gofal Cymru, Estyn ac eraill sydd yn cynnwys astudiaethau cenedlaethol a gwaith lleol pwrpasol. Pan fydd adroddiadau gan archwilydd allanol, rheoleiddiwr neu archwilydd arall yn cynnwys argymhellion lleol, mae’n bwysig bod swyddogion ac aelodau yn eu hystyried yn iawn a’u bod yn ymateb iddynt.
Mae canllawiau statudol a wnaed o dan Adran 85 Mesur Llywodraeth Leol (Cymru) 2011, yn cynghori y dylai Pwyllgorau Llywodraethu ac Archwilio dderbyn ac ystyried adroddiadau gan archwilwyr allanol, rheoleiddwyr ac archwilwyr arall, ac ers 2014, mae trefniadau wedi cael eu gwneud bod adroddiadau lleol sy’n cael eu cyhoeddi gan archwilwyr allanol, rheoleiddwyr ac archwilwyr yn cael eu tracio a’u hadrodd i’r Pwyllgor Llywodraethu ac Archwilio’n flynyddol er mwyn sicrhau bod adroddiadau o’r fath wedi cael eu hystyried a’u bod wedi ymateb iddynt.
Lawrlwythwch Adroddiad Sicrwydd Rheoleiddio Allanol
Gallwch lawrlwytho Adroddiad Blynyddol Sicrwydd Rheoleiddio Allanol 2023-24 isod.
Lawrlwythwch Adroddiad Blynyddol Sicrwydd Rheoleiddio Allanol 2023-24