Fel llawer o sefydliadau ledled y byd, rydym ar hyn o bryd yn cael ein heffeithio gan doriad byd-eang Microsoft 365. Mae hyn yn achosi tarfu ar rai o'n systemau a'n gwasanaethau, gan gynnwys e-byst (Outlook).

Mae ein timau TG yn ymwybodol o'r mater ac yn monitro cynnydd Microsoft yn agos wrth iddynt weithio i adfer y gwasanaeth i'r arfer. Ymddiheurwn am unrhyw darfu neu oedi wrth ymateb a allai ddeillio o hyn, a diolch am eich amynedd tra bod Microsoft yn datrys y broblem.

Bydd diweddariadau pellach yn cael eu darparu yma cyn gynted ag y bydd mwy o wybodaeth ar gael.

Alert Section

Adroddiad Perfformiad Blynyddol

I gael gwybod mwy am yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol, darllen yr adroddiad diweddaraf a gweld adroddiadau blaenorol.

Cyflwyniad

Croeso i Adroddiad Perfformiad Blynyddol Sir y Ffint. Mae’r ddogfen hon yn rhoi trosolwg o berformiad y Cyngor yn ystod 2023/24 yn erbyn y blaenoriaethau a osodwyd yng Nghynllun y Cyngor (2023-28) a’r cynnydd yn erbyn ein Hamcanion Lles;

  • Diogelu pobl rhag tlodi trwy eu cefnogi i fodloni eu hanghenion sylfaenol
  • Tai yn Sir y Ffint yn bodloni anghenion ein preswylwyr ac yn cefnogi cymunedau mwy diogel
  • Lleihau efaith gwasanaethau’r Cyngor ar yr amgylchedd naturiol a chefnogi cymunedau ehangach Sir y Ffint i leihau eu hôl troed carbon eu hunain
  • Galluogi adferiad economaidd cynaliadwy a thwf
  • Cefnogi pobl mewn angen i fyw cystal ag y gallent
  • Galluogi a Chefnogi Cymunedau sy’n Dysgu

Mae’r Adroddiad Perfformiad Blynyddol hefyd yn rhoi trosolwg o berformiad y Cyngor mewn perthynas â meysydd allweddol eraill, gan gynnwys newid yn yr hinsawdd a monitro’r gyllideb.

Adroddiad Perfformiad Blynyddol

Lawrlwythwch yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol

Gallwch lawrlwytho’r Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2024-25 isod

Lawrlwythwch yr Adroddiad Perfformiad Blynyddol 2024-25

Adroddiadau Perfformiad Blynyddol Blaenorol