I gael gwybod mwy am y Datganiad Llywodraethu Blynyddol.
 
Cyflwyniad
Mae Rheoliadau Cyfrifon ac Archwilio (Cymru) 2018 yn mynnu ein bod yn paratoi datganiad ar reolaeth fewnol.
Fel sawl awdurdod yng Nghymru, cyfeirir ato fel y ‘Datganiad Llywodraethu Blynyddol’. Dogfen gyhoeddus yw hon sy’n nodi i ba raddau rydym ni fel Cyngor yn cydymffurfio â’n cod llywodraethu ein hunain.
Mae’r Datganiad Llywodraethu Blynyddol yn adrodd ar y fframwaith llywodraethu sydd wedi bod ar waith yng Nghyngor Sir y Fflint yn ystod y flwyddyn ariannol.
 
Yn y Datganiad Llywodraethu Blynyddol, rydym ni, fel Cyngor, yn:
- Cydnabod ein cyfrifoldeb am sicrhau bod system lywodraethu gadarn mewn lle;
 
- Crynhoi elfennau allweddol y fframwaith llywodraethu a rolau’r rhai sy’n gyfrifol am ddatblygu a chynnal a chadw’r amgylchedd llywodraethu;
 
- Disgrifio sut rydym wedi monitro a gwerthuso effeithlonrwydd ein trefniadau llywodraethu yn y flwyddyn, ac unrhyw newidiadau sydd wedi'u cynllunio yn y cyfnod i ddod;
 
- Rhoi manylion ar sut rydym wedi ymateb i unrhyw fater(ion) a nodwyd yn natganiad llywodraethu'r llynedd;
 
- Adrodd ar unrhyw fater llywodraethu a nodwyd o’r adolygiad hwn ac ymrwymo i fynd i’r afael â nhw; ac
 
- Wrth gyfeirio at y Cyngor, mae hyn yn cynnwys ei berthynas grŵp ag endidau eraill megis New Homes Newydd a Newydd.
 
 
 
Lawrlwythwch y Datganiad Llywodraethu Blynyddol
Gallwch lawrlwytho'r Datganiad Llywodraethu Blynyddol isod.
Lawrlwythwch '2024-2025 - Ein Dull o Weithredu'r Datganiad Llywodraethu Blynyddol - Amgaead 1'
Lawrlwythwch '2024-2025 - Datganiad Llywodraethu Blynyddol - Amgaead 2'
Datganiadau Llywodraethu Blynyddol Blaenorol