Alert Section

Ymchwil ar-lein ac all-lein a'ch preifatrwydd


Rydym yn ymroddedig i ddiogelu eich gwybodaeth bersonol a pharchu eich preifatrwydd. Caiff gwybodaeth bersonol ei diffinio fel unrhyw fanylion a fydd yn galluogi eich bod yn cael eich adnabod, fel rhifau ID, rhifau ffôn, cyfeiriad, cyfeiriad e-bost ac ati.

Wrth ddylunio a chyflawni ein hymchwil, ein polisi ni yw cymryd yr holl gamau hanfodol i sicrhau bod y wybodaeth bersonol a roddwch yn cael ei phrosesu'n deg ac yn gyfreithlon.

Dim ond gweithwyr Cyngor Sir y Fflint awdurdodedig sydd â mynediad at wybodaeth bersonol ac mae rhwymedigaeth arnynt i barchu ei chyfrinachedd. Nid ydym yn gwerthu, rhentu neu gyfnewid unrhyw wybodaeth bersonol a gyflenwir gennych chi i drydydd parti. Ac nid ydym yn defnyddio unrhyw wybodaeth a roddwch i ni ar gyfer marchnata uniongyrchol neu weithgareddau nad ydynt yn ymwneud ag ymchwil.

Beth rydym yn ei wneud gyda’r wybodaeth a gasglwn o ymatebion arolwg

Bydd yr holl wybodaeth a roddwch yn cael ei thrin yn gyfrinachol a bydd yn cael ei defnyddio at ddibenion ymchwil yn unig. Ni fydd eich sylwadau'n cael eu dynodi’n gyhoeddus fel eich sylwadau chi, yn hytrach, byddant yn cael eu cyfuno gyda’r rhai hynny a gesglir gan gyfranogwyr arolwg eraill, a byddant yn cael eu dadansoddi fel rhan o’r grŵp.  Bydd yr wybodaeth a roddwch yn cael ei chadw am yr un cyfnod amser a nodir yn y ddogfennaeth ymgynghori. 

Os ydym yn gofyn am wybodaeth bersonol sy’n galluogi y byddwch yn cael eich adnabod – e.e. eich enw, rhifau ID, cyfeiriad e-bost neu rif ffôn, byddwn yn nodi'n glir yn y ddogfennaeth ymgynghori sut byddwn yn trin eich data.

Mae gennych hawliau unigol o dan ddeddfwriaeth Diogelu Data, i wybod mwy am eich hawliau a sut i’w harfer, cliciwch yma.  

Ymchwil ar-lein – e.e. gwefan, cyfryngau cymdeithasol, e-bost

Lle caiff data ei gasglu ar weinyddwyr a gynhelir yn allanol (er enghraifft SmartSurvey), wrth gwblhau’r arolwg, bydd y data a gesglir yn cael ei lawrlwytho a’i storio ar systemau TG Cyngor Sir y Fflint, ei gynnal ar weinyddwyr o fewn canolfannau data ym mherchnogaeth y Cyngor a leolir yn Sir y Fflint, a bydd y data a gesglir yn y system ymchwil a gynhelir yn allanol yn cael ei ddileu.    Ar gyfer hyd yr ymchwil, tra bod data’n cael ei gasglu gan SmartSurvey, caiff ei ddal yn eu canolfannau data, ac mae’n destun eu polisi preifatrwydd.

Ymchwil all-lein – e.e. papurau ymchwil, grwpiau ffocws, cyfarfodydd cyhoeddus, 

Bydd data a gesglir drwy holiaduron a ysgrifennwyd â llaw yn cael eu cyflwyno i’r Cyngor yn y modd a nodir yn y ddogfennaeth ymgynghori.   

Lle caiff holiaduron wedi’u hysgrifennu â llaw eu cwblhau i'w cyflwyno'n unol ag ymchwil ar-lein, ar ôl derbyn yn y lleoliad a nodir yn y ddogfennaeth ymgynghori, bydd data'n cael ei gofnodi yn y feddalwedd casglu data (er enghraifft SmartSurvey) a chaiff ei gynnal fel yr eglurir yn yr adran 'Ymchwil Ar-lein’ uchod.    

Lle cesglir data sy’n dynodi hunaniaeth unigolyn, o ganlyniad i ddigwyddiadau ymgysylltu wyneb yn wyneb, e.e. grwpiau ffocws, cyfarfodydd cyhoeddus ac ati, caiff ei brosesu yn y modd a nodir yn y digwyddiad. 

Bydd pob data sy’n dynodi hunaniaeth unigolyn, boed drwy holiaduron a ysgrifennwyd â llaw, neu drwy ddigwyddiadau ymgysylltu wyneb yn wyneb, yn cael eu storio’n ddiogel naill ai mewn eiddo ym mherchnogaeth Cyngor Sir y Fflint, neu mewn eiddo trydydd parti (yn y DU), lle mae'r Cyngor wedi ymrwymo i gytundeb archifo diogel.

Cysylltwch â ni

Mewn amgylchiadau lle rydych yn teimlo nad ydym wedi trin eich data yn gywir, mae gennych yr hawl i gwyno.   Am fwy o wybodaeth am sut i gwyno, cliciwch yma.