Ar gyfer Etholiadau Senedd Cymru, mae'n rhaid eich bod
Ar gyfer Etholiadau Senedd Cymru, mae’n rhaid eich bod :
- Wedi cofrestru i bleidleisio. Os nad ydych eisoes wedi cofrestru ewch i https://www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio
- Yn 16 oed neu’n hŷn ar ddiwrnod yr etholiad – 6 Mai 2021
- Yn ddinesydd Prydeinig, Gwyddelig, yr UE neu’n ddinesydd cymwys o’r Gymanwlad*
- Yn ddinesydd cymwys o wlad arall sydd â chaniatâd i ddod i mewn i’r DU neu i aros yn y DU, neu’n rhywun nad oes angen caniatâd o’r fath arnoch
*Dinesydd cymwys o’r Gymanwlad yw rhywun sydd â’r hawl i ddod i mewn i’r DU neu i aros yn y DU neu rywun nad oes angen hawl o’r fath arno/arni. Gellir dod o hyd i restr o’r gwledydd cymwys, Tiriogaethau Dibynnol ar Goron Prydain a Thiriogaethau Tramor Prydeinig ar wefan y Comisiwn Etholiadol.
Ni all myfyrwyr bleidleisio ddwywaith yn etholiadau Senedd Cymru a byddent yn cyflawni trosedd pe baent yn gwneud hynny. Dylent ddewis rhwng pleidleisio yn eu cyfeiriad cartref neu yn eu cyfeiriad prifysgol a threfnu pleidlais drwy’r post neu bleidlais drwy ddirprwy yn ôl yr angen.