Alert Section

Prawf Adnabod i Bleidleisio

O 4 Mai 2023, bydd yn rhaid i bleidleiswyr yng Nghymru ddangos prawf adnabod â llun er mwyn pleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio mewn rhai etholiadau.

Bydd hyn yn berthnasol i’r isod yn unig:

  • Etholiadau Comisiynydd yr Heddlu a Throsedd
  • Is-etholiadau Seneddol y DU
  • Deisebau adalw

O fis Hydref 2023, bydd hyn hefyd yn berthnasol i etholiadau Cyffredinol y DU.Ni fydd angen i bleidleiswyr yng Nghymru ddangos prawf adnabod â llun i bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio yn etholiadau’r Senedd nac yn etholiadau cynghorau lleol.

Mae rhagor o wybodaeth am Brawf Adnabod i Bleidleisio ar gael ar wefan Y Comisiwn Etholiadol

Ffurfiau o Brawf Adnabod â llun a dderbynnir

Gallwch chi ddefnyddio unrhyw un o'r dulliau canlynol a dderbynnir o Brawf Adnabod â llun pan fyddwch chi’n pleidleisio mewn gorsaf bleidleisio. 

Ffurfiau o Brawf Adnabod â llun a dderbynnir
CategoriDogfen a dderbynnir
Teithio rhyngwladol
  • Pasbort wedi’i gyflwyno gan y DU, unrhyw un o Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw, Tiriogaeth Dramor Brydeinig, gwladwriaeth yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd neu un o wledydd y Gymanwlad.
Gyrru a Pharcio
  • Trwydded yrru wedi’i chyflwyno gan y DU, unrhyw un o Ynysoedd y Sianel, Ynys Manaw, neu wladwriaeth yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd
  • Bathodyn Glas
Teithio Lleol
  • Cerdyn Bws Unigolyn Hŷn
  • Cerdyn Bws Unigolyn Anabl
  • Cerdyn Oyster 60+
  • Pàs Freedom
  • Cerdyn Hawl Cenedlaethol yr Alban
  • Cerdyn Teithio Rhatach i Bobl 60 Oed a Throsodd yng Nghymru
  • Cerdyn Teithio Rhatach i Bobl Anabl yng Nghymru
  • SmartPass i Bobl Hŷn a gyflwynwyd yng Ngogledd Iwerddon
  • SmartPass i bobl sydd wedi’u cofrestru’n ddall neu SmartPass i bobl ddall a gyflwynwyd yng Ngogledd Iwerddon
  • SmartPass Anabledd Rhyfel a gyflwynwyd yng Ngogledd Iwerddon
  • SmartPass 60+ a gyflwynwyd yng Ngogledd Iwerddon
  • SmartPass Hanner Pris a gyflwynwyd yng Ngogledd Iwerddon
Prawf o’ch oedran
  • Cerdyn adnabod sydd â hologram y Cynllun Safonau Prawf Oedran (cerdyn PASS)
Dogfennau eraill wedi’u cyflwyno gan y llywodraeth
  • Dogfen mewnfudo biometrig
  • Ffurflen 90 y Weinyddiaeth Amddiffyn (Cerdyn Adnabod Amddiffyn)
  • Cerdyn adnabod cenedlaethol wedi’i gyflwyno gan wladwriaeth yn yr Ardal Economaidd Ewropeaidd
  • Cerdyn Adnabod Etholiadol a gyflwynwyd yng Ngogledd Iwerddon
  • Tystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr
  • Dogfen Etholwr Dienw

Un dull o brawf adnabod â llun yn unig y bydd angen i chi ei ddangos ac mae’n rhaid i chi gyflwyno’r fersiwn gwreiddiol ac nid llun-gopi ohono.

Prawf Adnabod â llun sydd wedi dod i ben

Gallwch ddefnyddio’ch Prawf Adnabod â llun os yw wedi dod i ben, cyn belled â’i fod yn edrych fel chi.

Dylai’r enw ar eich Prawf Adnabod fod yr un enw y gwnaethoch chi ei ddefnyddio i bleidleisio.

Os nad oes gennych chi Brawf Adnabod â llun a dderbynnir

Gallwch chi wneud cais am ddogfen prawf adnabod i bleidleisio yn rhad ac am ddim, y caiff ei alw’n Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr, os:

  • nad oes gennych chi Brawf Adnabod â llun a dderbynnir
  • nad ydych chi’n siŵr a yw eich Prawf Adnabod â llun yn dal i edrych fel chi
  • ydych chi’n poeni am ddefnyddio dull adnabod sy'n bodoli am unrhyw reswm arall, fel marciwr rhywedd sydd wedi’i ddefnyddio

Mae’n rhaid i chi gofrestru i bleidleisio cyn gwneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr (dim ond os nad ydych chi wedi cofrestru’n barod y dylech chi wneud hyn)

Mae gwybodaeth am sut i wneud cais ar gyfer Tystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr ar gael ar wefan Y Comisiwn Etholiadol

Os oes angen cymorth arnoch chi

Os oes angen cymorth a chefnogaeth arnoch chi i wneud cais ar-lein, gallwn ni helpu.  Gallwch chi gael cymorth i dynnu’ch llun a’i uwchlwytho yn un o swyddfeydd Sir y Fflint yn Cysylltu