Alert Section

Adnewyddu eich trefniadau pleidleisio drwy'r post - Etholiadau Seneddol a Chomisiynwyr yr Heddlu a Throsedd y DU

Oherwydd newidiadau yn Neddf Etholiadau 2022, dim ond am gyfnod o 3 blynedd ar y mwyaf y gall trefniadau i bleidleisio drwy'r post yn etholiadau Seneddol y DU a Chomisiynwyr yr Heddlu a Throsedd fod ar waith bellach.

Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i etholwr wneud cais newydd bob 3 blynedd os yw am barhau i bleidleisio drwy’r post.

Nid yw'r newidiadau hyn yn effeithio ar drefniadau pleidleisio drwy'r post ar gyfer etholiadau'r Senedd a llywodraeth leol.

Sut ydym yn cysylltu â chi

Byddwn yn cysylltu â chi yn ystod ein cyfnod canfasio eiddo yn flynyddol. Efallai y byddwch yn derbyn gohebiaeth drwy e-bost a/neu drwy’r post.

Os ydych chi wedi rhoi cyfeiriad e-bost i ni ac wedi cydsynio i'w ddefnyddio at ddibenion cofrestru etholiadol, byddwn yn cysylltu â chi drwy e-bost yn gyntaf.  Gall hwn ddod o electoralservices@register.flintshire.gov.uk neu drwy Wasanaeth Hysbysu GOV i gysylltu â thrigolion yn ddiogel a'u cyfeirio at y gwasanaeth i wneud cais ar-lein am bleidlais drwy’r post.

Efallai y byddwch hefyd yn derbyn nodyn atgoffa ym mis Rhagfyr 2025 neu ddechrau mis Ionawr 2026.  Y dyddiad cau i ail-ymgeisio yw 31 Ionawr 2026. Peidiwch ag aros tan y dyddiad hwn. GWEITHREDWCH NAWR!

Beth sydd angen i mi ei wneud?

Os ydych chi am barhau i bleidleisio drwy'r post mewn Etholiadau Seneddol a Chomisiynwyr yr Heddlu a Throsedd yn y dyfodol, mae’n rhaid i chi ail-ymgeisio nawr.

Bydd angen y wybodaeth ganlynol arnoch i gwblhau eich cais:

  • Rhif Yswiriant Gwladol
  • Llun clir o’ch llofnod wedi’i ysgrifennu â llaw. Bydd angen i hwn fod mewn inc du ac ar bapur gwyn plaen.
  • Y cyfeiriad ble rydych wedi cofrestru i bleidleisio
  • Os na allwch ddarparu llofnod cyson oherwydd unrhyw anabledd neu anallu i ddarllen neu ysgrifennu, cysylltwch â'r Gwasanaethau Etholiadol gan ddefnyddio'r manylion cyswllt isod.

Os na allwch gwblhau eich cais ar-lein, gellir lawrlwytho ffurflenni cais papur yma.

Fel arall cysylltwch â: register@flintshire.gov.uk neu ffoniwch: 01352 702300 er mwyn i ni anfon copi papur atoch.Dychwelwch eich ffurflenni wedi’u llenwi at: Gwasanaethau Etholiadol, Tŷ Dewi Sant, Parc Dewi Sant, Ewlo, Sir y Fflint CH5 3FF

Canslo eich pleidlais drwy’r post

Os hoffech ganslo eich pleidlais drwy’r post, cysylltwch â ni trwy ddefnyddio’r manylion cyswllt uchod.

Ydych chi’n newydd i bleidleisio drwy’r post?

Os ydych chi'n newydd i bleidleisio drwy'r post ac yn dymuno pleidleisio drwy'r post ym 'mhob etholiad', dylech lawrlwytho a chwblhau (yn agor mewn tab newydd) y ffurflen a'i dychwelyd i'r cyfeiriad a ddarperir uchod.

Eich manylion adnabod a sut y cânt eu defnyddio

Yn eich cais i bleidleisio drwy’r post gofynnir i chi roi eich dyddiad geni a’ch llofnod (sef eich ‘manylion adnabod’).

Pan fyddwch chi wedyn yn pleidleisio drwy’r post, gofynnir i chi lenwi datganiad gyda’ch manylion adnabod a’i ddychwelyd. Yna byddwn yn gwirio’r rhain yn erbyn y manylion adnabod a ddarparwyd gennych yn eich cais i wneud yn siŵr eu bod yr un fath. Os ydyn nhw’n wahanol, ni fydd eich pleidlais yn cyfrif. Mae hyn yn atal rhywun arall rhag defnyddio’ch pleidlais.

Caiff eich manylion adnabod eu cadw ar wahân i’ch papur pleidleisio bob amser, felly ni fydd unrhyw un yn gwybod sut wnaethoch chi bleidleisio.