Alert Section

Swyddi Gwag Achlysurol ac isetholiadau


Gall sedd ddod yn wag mewn gwahanol ffyrdd. Gall fod oherwydd ymddiswyddiad cynghorydd, marwolaeth cynghorydd, anghymhwysiad (neu ddiffyg bod yn gymwys) cynghorydd, neu fethiant i ymgymryd â’r swydd ar ôl cael ei ethol.

Cynghorau Tref a Chymuned

Pan ddaw sedd cynghorydd yn wag bydd Clerc y Dref/Cymuned yn arddangos 'Hysbysiad o Sedd Wag' yn yr ardal gymunedol.

Mae'r hysbysiad hwn yn egluro y gellir cynnal etholiad os gwneir cais ysgrifenedig i'r Swyddog Canlyniadau gan 10 etholwr o'r ardal gymunedol. Os yw'r ardal gymunedol wedi'i rhannu'n wardiau, rhaid i'r cais ddod oddi wrth bobl yn y ward honno yn unig.  Rhaid i'r cais fod o fewn 14 diwrnod gwaith i ddyddiad yr hysbysiad.

Os gofynnir am etholiad mae'n rhaid ei gynnal o fewn 60 diwrnod i ddyddiad codi'r hysbysiad. Os nad oes cais i gynnal etholiad yna gall y Cyngor Tref/Cymuned gyfethol rhywun i’r sedd wag.

Mae hyn yn golygu y gall y Cyngor Tref/Cymuned ddewis pwy y dymunant ei benodi i lenwi’r sedd, yn hytrach na chynnal etholiad.

Cyngor Sir

Pan ddaw sedd cynghorydd yn wag mae 'Hysbysiad o Sedd Wag' yn hysbysebu'r ffaith bod sedd wag.

Mae'r hysbysiad yn egluro y gellir cynnal etholiad os gwneir cais ysgrifenedig i'r Swyddog Canlyniadau gan 2 etholwr o'r ardal etholiadol. Os gofynnir am etholiad mae'n rhaid ei gynnal o fewn 35 diwrnod i ddyddiad codi'r hysbysiad.

Yr eithriad i hyn yw os bydd sedd wag yn codi o fewn 6 mis i ddyddiad yr etholiadau nesaf a drefnwyd. Os bydd hyn yn digwydd, caiff y sedd wag ei chario drosodd i'r etholiadau nesaf. Bydd y sedd yn parhau'n wag ac ni fydd is-etholiad yn cael ei gynnal.

Datganiad o Ganlyniadau'r Bleidlais - Ward Etholiadol Brynffordd a Helygain