Cadeirydd y Cyngor
Y Cadeirydd yw pennaeth dinesig seremonïol y Cyngor. Rhaid i’r Cadeirydd fod yn Gynghorydd Sir mewn gwasanaeth, ond dylai aros yn ddi-duedd yn wleidyddol wrth gyflawni ei rôl. Ni ddylai’r Cadeirydd fod yn Aelod o’r Bwrdd Gweithredol.
Etholir Cadeirydd yng Nghyfarfod Blynyddol y Cyngor a gynhelir ym mis Mai bob blwyddyn.
Gall y rôl fod yn un drom iawn ac mae’r Cadeirydd fel arfer yn mynychu dros 400-500 o ddigwyddiadau yn ystod y flwyddyn.
Cadeirydd 2025/26 Cynghorydd Mel Buckley.
Mae’r Cynghorydd Mel Buckley wedi cael ei phenodi’n Gadeirydd Cyngor Sir y Fflint ar gyfer blwyddyn 2025–26.
Mae’r Cynghorydd Buckley’n cynrychioli Ward Oakenholt, y Fflint, ar y lefel drefol a’r lefel sirol, a chyn hynny roedd yn gynghorydd tref dros Ward Trelawny, y Fflint.
Mae’r Cynghorydd Buckley wedi bod yn Faer tref y Fflint ddwywaith ac wedi gallu codi symiau da o arian ar gyfer achosion lleol teilwng iawn y ddau dro.
Mae’r Cynghorydd Buckley’n gefnogwr brwd i Glwb Pêl-droed Merched Tref y Fflint a Chôr Merched y Fflint, lle bu’n Gadeirydd am sawl blwyddyn.
Fe wnaeth y Cynghorydd Buckley drefnu a chodi arian ar gyfer Balchder y Fflint a gynhaliwyd yn 2024 i hyrwyddo undod a chynhwysiant yn ein cymunedau.
Mae’r Cynghorydd Buckley’n mwynhau harddwch natur a bydd i’w gweld yn aml yn cerdded yn yr awyr agored gyda’i chihuahua blewyn-hir ffyddlon, Shep.
Mae gan y Cynghorydd Buckley un ferch sy’n gwasanaethu yn y Llynges ar hyn o bryd.
Mae gan y Cadeirydd rôl allweddol yn y Cyngor gan gynnwys:-
- bod yn arweinydd dinesig di-duedd yn wleidyddol i Sir y Fflint a chynnal gwerthoedd democrataidd y Cyngor
- hyrwyddo amcanion a gwasanaethau’r Cyngor Sir a chodi proffil Sir y Fflint ei hun
- gweithredu fel llysgennad i’r Cyngor Sir a Sir y Fflint
- meithrin hunaniaeth a balchder cymunedol
- cydnabod unigolion a sefydliadau sydd wedi dod â llwyddiant i’r Sir
Mae gan y Cadeirydd gyfrifoldebau eraill megis:-
- llywyddu yng nghyfarfodydd y Cyngor i sicrhau eu bod yn cael eu cynnal yn effeithlon ac o ran hawliau Cynghorwyr a buddiannau’r gymuned
- mynychu digwyddiadau dinesig a seremonïol
- gwahodd unigolion a chynrychiolwyr sefydliadau i ddigwyddiadau yn Neuadd y Sir a lleoliadau eraill
Ar ddechau’r flwyddyn, gall y Cadeirydd enwebu elusen neu elusennau i elwa o’r arian a gasglwyd yn ystod eu blwyddyn yn y swydd. Yr elusennau y mae’r Cadeirydd wedi’u dewis eleni yw:
- The Counselling Hub
- Giddo's Gift
Is-Gadeirydd 2025/26 yw’r Cynghorydd Debbie Owen.
Mae’r Cynghorydd Debbie Owen wedi ei phenodi yn Is-gadeirydd Cyngor Sir y Fflint ar gyfer y flwyddyn 2025-26.
Mae’r Cynghorydd Owen yn cynrychioli’r Ward Ganolog yng Nghei Connah ar lefel y Dref a’r Sir.
Yn flaenorol mae’r Cynghorydd Owen wedi bod yn Is-gadeirydd a Chadeirydd Cyngor Tref Cei Connah.
Mae’r Cynghorydd Owen yn cefnogi llawer o sefydliadau yn lleol.Mae’n briod â Mr Allen Owen a bydd ei gŵr yn gonsort iddi.
Mae ganddynt 3 o blant a 7 o wyrion a wyresau.
Cymar y Cynghorydd Owen fydd ei gŵr Mr Allen Owen.
Mae’r Cadeirydd yn croesawu cynghorau ysgol, grwpiau elusennol ac ati i ymweld ag ef/hi yn Neuadd y Sir. Gwahoddir gwahoddedigion i lolfa’r Cadeirydd a gallant fynd ar daith o amgylch y Siambrau. Byddai’r Cadeirydd hefyd yn falch o ymweld â thrigolion Sir y Fflint sy’n dathlu eu penblwyddi’n 100 oed, penblwyddi priodas mawr neu fynychu agoriadau digwyddiadau, busnesau a digwyddiadau elusennol.
Os hoffech wahodd y Cadeirydd i fynychu digwyddiadau yr ydych wedi’u trefnu, cysylltwch â:
Mrs. Karen Jones
Swyddog Gwasanaethau Dinesig ac Aelodau
Gwasanaethau Dinesig ac Aelodau
Cyngor Sir y Fflint, Tŷ Dewi Sant, Parc Dewi Sant, Ewlo, CH5 3FF.
Rhif ffôn: 01352 702152
E-bost: chairman.assistant@flintshire.gov.uk
Mae Cadeirydd ymadawol 2024/2025, y Cynghorydd Dennis Hutchinson, wedi casglu £5,000 a fydd yn mynd i’w elusen enwebedig:
- 1996 – 1996 Mrs. I. Fellow M.B.E. J.P
- 1996 – 1998 Mr. H.O. Clarke
- 1998 – 1999 Mr. W.A. Jones J.P
- 1999 – 2000 Mr. I.L. Roberts M.B.E. J.P
- 2000 – 2001 Mr. T.W. Jones O.B.E
- 2001 – 2002 Mrs. A. Slowik
- 2002 – 2004 Mr. J. Ovens
- 2004 – 2005 Mr. K.W. Richardson
- 2005 – 2006 Mr. P.J. Curtis
- 2006 – 2007 Mr. D. Barratt
- 2007 – 2008 Mrs. A. Minshull
- 2008 – 2009 Mr. Q.R.H. Dodd
- 2009 – 2010 Mr. C. Legg
- 2010 – 2011 Mr. W.O. Thomas
- 2011 – 2012 Mrs. H. McGuill
- 2012 – 2013 Mrs. A. Minshull J.P
- 2013 – 2014 Mrs. C.Thomas
- 2014 – 2015 Mrs. G.D. Diskin J.P
- 2015 – 2016 Mr. R. Hughes
- 2016 – 2017 Mr. P. J. Curtis
- 2017 – 2018 Mr. R. B. Lloyd
- 2018 – 2019 Mr. P. Cunningham
- 2019 – 2021 Mrs. M. Bateman
- 2021 – 2022 Mr. J. Johnson
- 2022 – 2023 Mrs. M. Eastwood
- 2023 – 2024 Mrs. G. Healey
- 2024 – 2025 Mr. D. Hutchinson