The budget and local services 2026-27
Cwestiynau Cyffredin
Diweddaru Diwethaf: 10 Chwefror 2026
O le daw arian y Cyngor?
- 68% o Lywodraeth Cymru
- 27% o Dreth y Cyngor
- 5% o'r ffioedd ar gyfer rhai gwasanaethau e.e. ffioedd cynllunio, ffioedd gwastraff gardd, ffioedd y Swyddfa Gofrestru
Pam bod bwlch yn y gyllideb, o le mae hyn yn dod?
Mae’r rhan fwyaf o’n cyllid (68%) yn dod gan Lywodraeth Cymru (LlC) ar ffurf Grant Cynnal Refeniw.
Ers 2008, yn sgil gostyngiadau mewn cyllid gan y Deyrnas Unedig a llywodraethau cenedlaethol, roedd rhaid i Gyngor Sir y Fflint leihau ei wariant o £142 miliwn, felly ychydig iawn o gyfleoedd sydd ar ôl i dorri ymhellach ar wariant.
Mae’r bwlch yn y gyllideb ar gyfer 2026/27 yn dod o bethau fel:
- costau ynni, bwyd a thanwydd a gwasanaethau eraill
- cynnydd yn y galw am wasanaethau megis digartrefedd a gofal cymdeithasol
- costau cynyddol gan bartneriaid allanol e.e. Tân ac Achub Gogledd Cymru a darparwyr gwasanaethau gofal cymdeithasol.
Pa mor fawr yw’r bwlch ar gyfer 2026/27?
In December 2025 the council was facing a forecasted £28.945m gap in its budget.
Taking account of:
- Welsh Governments provisional settlement announcement (a 2.3% increase for Flintshire), and
- an indicative 5% council tax increase
this gap was reduced to £9.519m.
Welsh Government later announced in January an increase in our settlement (from 2.3% to 4.1% for Flintshire).
Whilst this extra funding was welcomed it still wasn’t enough to close the gap and we have been left with no option other than to make hard choices about where to cut our spending.
I gyflawni cyllideb gytbwys yn gyfreithiol bu i’r Cyngor:
- ofyn i bob gwasanaeth ganfod gostyngiadau pellach yn y gyllideb.
- cynyddu ffioedd a thaliadau ar gyfer rhai gwasanaethau.
- cytuno ar gynnydd terfynol yn Nhreth y Cyngor o 4.98% i dalu am wasanaethau’r Cyngor gyda 0.48% pellach i helpu i dalu am gynnydd yn ein cyfraniadau i Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru.
Gellir dod o hyd i wybodaeth am gynnydd yn Nhreth y Cyngor a weithredwyd yn 2026/27 drwy glicio yma
Mae rhagor o wybodaeth am Dreth y Cyngor ar gyfer 2026/27 ar gael yn adran Cwestiynau Cyffredin Treth y Cyngor y wefan.
Ydi pob Cyngor yn cael trafferth mantoli’r cyfrifon neu Sir y Fflint ydi’r unig un?
Mae wedi’i gofnodi’n helaeth bod holl Gynghorau ar draws y DU yn wynebu heriau ariannol sylweddol.
Ydi Llywodraeth Cymru yn rhoi'r un swm i bob Cyngor i ariannu gwasanaethau?
Wrth ddyrannu ei gyllideb gyffredinol mae Llywodraeth Cymru yn dynodi cyfran i ariannu gwasanaethau’r cyngor. Yna mae’r arian yn cael ei rannu rhwng y 22 Cyngor yng Nghymru. Mae’r swm mae pob cyngor yn ei dderbyn yn cael ei gyfrifol trwy Fformiwla Cyllido Llywodraeth Leol. Mae’n ystyried pethau fel maint daearyddol y cyngor, pa mor wledig ydyw, maint y boblogaeth, yr economi yn yr ardal o ran cyfoeth a thlodi.
Mae gan Sir y Fflint y chweched boblogaeth fwyaf yng Nghymru, fodd bynnag, o dan y Fformiwla Cyllido, mae Sir y Fflint yn Gyngor wedi’i ariannu’n isel, yn yr 19 safle allan o 22 Gyngor o ran y swm o arian mae’n ei dderbyn fesul pen y boblogaeth (gweler y tabl isod). Mae hyn £170 yn is fesul person na chyfartaledd Cymru. Os byddai Sir y Fflint yn derbyn cyfartaledd Cymru byddem tua £26.5m yn well allan yn ariannol.
Does Welsh Government give each Council the same amount to fund services?
| Y Cyngor | Cyllid Dros Dro 2025/26 gan Lywodraeth | Cyllid Llywodraeth Cymru fesul pen o'r boblogaeth | Y sefyllfa gyllido yng Nghymru |
| Blaenau Gwent |
165,530 |
2,439 |
1 |
| Merthyr Tudful |
142,226 |
2,412 |
2 |
| Ddinbych |
229,908 |
2,341 |
3 |
| Rhondda Cynon Taf |
556,416 |
2,291 |
4 |
| Castell-nedd Port Talbot |
326,025 |
2,276 |
5 |
| Siriol Caerffili |
398,562 |
2,253 |
6 |
| Torfaen |
205,875 |
2,187 |
7 |
| Gwynedd |
264,009 |
2,185 |
8 |
| Casnewydd |
356,168 |
2,121 |
9 |
| Ceredigion |
153,336 |
2,112 |
10 |
| Gaerfyrddin |
400,106 |
2,097 |
11 |
| Ynys Môn |
144,585 |
2,092 |
12 |
| Conwy |
233,503 |
2,032 |
13 |
| Pen-y-bont ar Ogwr |
296,168 |
2,008 |
14 |
| Abertawe |
502,797 |
2,001 |
15 |
| Powys |
267,568 |
1,981 |
16 |
| Sir Penfro |
248,980 |
1,979 |
17 |
| Wrecsam |
268,026 |
1,939 |
18 |
| Sir y Fflint |
294,090 |
1,887 |
19 |
| Caerdydd |
716,999 |
1,868 |
20 |
| Bro Morgannwg |
240,134 |
1,769 |
21 |
| Sir Fynwy |
144,723 |
1,525 |
22 |
| Cyfanswm y cynghorau |
6,555,645 |
2,057 |
|
Beth yw’r gwahaniaeth rhwng gwariant Refeniw a Chyfalaf?
Y ffordd hawsaf i egluro’r gwahaniaeth rhwng Refeniw a Chyfalaf yw yn nhermau aelwyd. Mae cyfalaf yn talu am yr eitemau mawr na brynir yn aml (tŷ neu gar) ac mae refeniw yn talu am bethau bob dydd er mwyn eu cadw i fynd, fel gwres, goleuadau, bwyd, disel ac ati.
Mae’r Cyngor yn defnyddio ei Gyfalaf er mwyn buddsoddi mewn pethau a fydd yn para am amser hir, pethau fel gwelliannau i adeiladau ysgol neu gartrefi gofal. Yn ogystal â thalu am bethau dydd i ddydd megis cyflogau, gwres a goleuadau, mae cyllid refeniw hefyd yn talu am gostau dydd i ddydd casgliadau gwastraff ac ailgylchu wythnosol, pecynnau gofal ar gyfer pobl hŷn a diamddiffyn, llety ar gyfer pobl ddigartref ac ati
Er ei bod yn bosibl, o dan y rheolau presennol, i ddefnyddio cyllid Refeniw er mwyn helpu i gefnogi pryniant Cyfalaf, nid yw fel arfer yn bosibl i ddefnyddio arian Cyfalaf i dalu am gostau Refeniw. Er enghraifft, pe bydd y Cyngor yn gwerthu darn o dir, bydd yr arian a dderbynnir yn arian Cyfalaf a gallai ond gael ei wario ar brosiectau Cyfalaf eraill. Ni ellir ei ddefnyddio i dalu am gostau rhedeg dydd i ddydd.
Pa gamau y mae’r Cyngor wedi eu cymryd dros y blynyddoedd diwethaf i fantoli cyfrifon?
Ers 2008 mae Cyngor Sir y Fflint wedi gorfod torri £142 miliwn ar ei wariant.
Rydym wedi cyflawni’r gostyngiad anferth hwn drwy wneud pethau fel:
- gostyngiadau sylweddol mewn swyddi uwch reolwyr a rheolwyr canol a swyddi gweinyddol a chlerigol.
- gostyngiadau sylweddol yn holl gyllidebau gwasanaethau, gan gynnwys ysgolion.
- gostwng nifer yr adeiladau y mae’r Cyngor yn berchen arnynt ac yn eu cynnal, gan wneud y defnydd gorau ohonynt trwy resymoli lle, cyflwyno arferion gweithio hybrid a rhannu gyda phartneriaid.
- adolygu ac ail-drafod contractau i arbed arian yn y modd rydym yn prynu nwyddau a gwasanaethau i sicrhau cyfraddau cystadleuol ac enillion gorau ar fuddsoddiad.
- newid y ffordd rydym yn darparu gwasanaethau trwy gwmnïau masnachu mewn perchnogaeth lwyr - gwasanaethau glanhau ac arlwyo NEWydd, gwasanaethau hamdden a llyfrgelloedd Gwella, gwasanaethau tai fforddiadwy NEW Homes.
- gweithio gyda chymunedau lleol ble bu diddordeb mewn rhedeg gwasanaethau lleol e.e. Canolfan Hamdden Treffynnon, Cambrian Aquatics, Caffi Isa.
- gweithio gydag ystod o fudd-ddeiliaid gan gynnwys landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i wneud y defnydd gorau o adnoddau a chyllid sydd ar gael i greu mynediad at gartrefi fforddiadwy addas - y math cywir o gartref, yn y lleoliad cywir, i’r bobl gywir.
- Double Click - menter gymdeithasol sy'n darparu gwasanaethau cymdeithasol i oedolion â phroblemau iechyd meddwl ac anawsterau dysgu.
- integreiddio gwasanaethau gyda chynghorau eraill yn y rhanbarth i rannu costau e.e. addysg.
- caffael neu swmp-brynu gyda chynghorau eraill i gael gwell bargen e.e. caledwedd cyfrifiadurol.
- adolygu ffioedd a thaliadau bob blwyddyn.
- cyflwyno casgliadau bin du bob tair wythnos - ynghyd â thrigolion yn gwella ôl-troed carbon y sir yr un pryd ag arbed arian.
Pam na all y Cyngor ddefnyddio'r arian sydd ganddo wrth gefn i helpu i fantoli'r cyfrifon?
Pan rydym yn cyfeirio at ‘gronfeydd wrth gefn’ rydym yn sôn am arian mae’r Cyngor yn ei gadw bob blwyddyn i dalu am wariant annisgwyl neu argyfyngau, er enghraifft cost digwyddiad tywydd eithafol.
Nid yw’r Cyngor yn cadw cronfeydd wrth gefn mawr, ac yn debyg i gynilion aelwyd, unwaith i ni fynd i mewn iddynt i dalu am rywbeth yna mae’r arian wedi mynd. Lefel sylfaen presennol y Cyngor o ran cronfeydd wrth gefn yw £8,985 miliwn sydd ond yn 2.44% o Gyllideb Refeniw Cronfa’r Cyngor. Dyma amddiffyniad olaf y Cyngor mewn digwyddiad o amgylchiadau anrhagweladwy ac mae’n isel iawn o’i gymharu â Chynghorau eraill yng Nghymru.
Yn ogystal â’r lefel sylfaen o gronfeydd wrth gefn, mae gennym gronfa wrth gefn at raid sydd wedi cael ei adeiladu o danwariant yn y blynyddoedd blaenorol. Amcangyfrifir mai dim ond £2.592 miliwn sydd ar gael, ac nid yw hyn yn rhoi llawer iawn o gadernid i’r Cyngor yn yr hinsawdd ariannol sydd ohoni.
Mae gan y Cyngor hefyd amrywiol gronfeydd wrth gefn a glustnodwyd, sydd wedi’u rhoi o’r neilltu er dibenion penodol ac y gellir cael gafael arnynt pan fydd angen y gwariant ychwanegol.
Cyllideb net y Cyngor ar gyfer 2025/26 yw £397 miliwn ac felly mae cyfanswm yr arian wrth gefn sydd ar gael yn cyfateb i 2.92% o’r gyllideb.
Y gyllideb a’ch Treth y Cyngor
Ar gyfer pob 1% o Dreth y Cyngor a gaiff ei gasglu mae’r Cyngor yn derbyn £1.211 miliwn mewn incwm i helpu i dalu am wasanaethau.
Ar gyfer 2026/27 mae’r Cyngor yn gosod cynnydd o 5.46% yn Nhreth y Cyngor.
4.98% i dalu am wasanaethau’r Cyngor, a 0.48% yn ychwanegol i dalu costau cynyddol ein cyfraniadau i Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru.
Gellir dod o hyd i wybodaeth am gynnydd yn Nhreth y Cyngor a weithredwyd yn 2026/27 drwy glicio yma [Aimee's new Council Tax leaflet]
Mae rhagor o wybodaeth am Dreth y Cyngor ar gyfer 2026/27 ar gael yn adran Cwestiynau Cyffredin Treth y Cyngor y wefan [Jonathan's FAQs page].
Pam nad ydych chi’n lleihau eich gweithlu?
Dros y degawd diwethaf, mae’r Cyngor wedi symleiddio ei weithlu i’r fath raddau fel bod llawer o wasanaethau yn rhedeg ar gapasiti critigol bellach, a gallai unrhyw ostyngiadau pellach arwain at lefelau anniogel.
Pam fod y Cyngor yn talu busnesau masnachol i ddarparu rhai o’i wasanaethau y gall ddarparu ei hun?
Yn aml, mae galw cynyddol yn golygu bod y gwasanaethau a ddarperir gan Gyngor Sir y Fflint yn gorlenwi, neu gall yr angen fod yn arbenigol, felly ni all Sir y Fflint ei ddarparu. Er enghraifft, gofal preswyl neu nyrsio ar gyfer pobl hŷn neu lefydd preswyl/addysgol ar gyfer plant a phobl ifanc gydag anghenion cymhleth.
Weithiau mae’r angen mor arbenigol fel nad oes gennym unrhyw ddewis, fodd bynnag fel arfer mae’r galw mor fawr fel nad oes gan y Cyngor gapasiti i ddarparu’r gwasanaeth eu hun ac angen talu busnesau masnachol i’w gyflawni yn ein lle. Gall hyn fod yn gostus iawn a gyda mwy a mwy o bobl angen y gwasanaethau, mae’r costau yn cynyddu bob blwyddyn.
Dros nifer o flynyddoedd bellach, mae’r Cyngor wedi bod yn buddsoddi i arbed, a thrwy weithio gyda phartneriaid, wedi datblygu ac ehangu gwasanaethau er mwyn adeiladu mwy o gapasiti, er enghraifft:
- Tai Gofal Ychwanegol yn Llys Eleanor, Shotton, Llys Jasmine, Yr Wyddgrug - Llys Raddington, y Fflint - Plas yr Ywen, Treffynnon, gan ddarparu cyfleoedd byw yn annibynnol ar gyfer pobl hŷn gyda’r fantais o ofal a chefnogaeth ar y safle lle bod angen.
- Marleyfield House, Bwlce - wedi ehangu ac ailddatblygu i ddarparu llety ar gyfer 64 o bobl - gan ddyblu ei gapasiti - i gefnogi pobl gyda gofal preswyl hirdymor ac arhosiad byr ail-alluogi ar gyfer pobl sy’n gadael yr ysbyty cyn dychwelyd i fyw’n annibynnol adref.
- Tŷ Croes Atti, y Fflint - cyfleuster newydd sbon a agorwyd ym mis Rhagfyr 2025 yn darparu gofal ail-alluogi preswyl hirdymor a byr dymor. [link to film]
- Tai newydd - gweithio gyda phartneriaid landlordiaid cymdeithasol i ddarparu tai lleol fforddiadwy o safon uchel. [link to film]
Tra bod buddsoddi i arbed yn y modd hwn wedi ei ddylunio i helpu rheolaeth ariannol y Cyngor, yn bwysicaf, mae cynyddu capasiti yn y ffordd hon yn darparu mynediad at wasanaethau lleol gwerthfawr i bobl leol.
Pam bod cynnydd yn yr angen am gymorth digartrefedd?
Bob blwyddyn, mae mwy o bobl yn Sir y Fflint naill ai mewn perygl o fod yn ddigartref, neu’n ddigartref ac mewn perygl o gysgu allan. Mae gan y Cyngor gyfrifoldeb cyfreithiol i helpu’r bobl yma.
Nid yw’r argyfwng costau byw parhaus nac amodau’r farchnad dai yn helpu’r sefyllfa hon.
Mae llawer o landlordiaid sector preifat yn gwerthu eu heiddo rhent, sy’n golygu bod llai o dai preifat ar gael i’w rhentu, ond gall hefyd olygu bod nifer uwch o bobl yn ddigartref, gan fod rhaid iddynt adael unwaith y bydd eiddo wedi’i werthu. Gyda llai o eiddo rhent ar gael, mae llai o ddewisiadau i bobl pan fydd angen iddynt symud ymlaen.
Er bod Sir y Fflint a landlordiaid cymdeithasol eraill wedi buddsoddi llawer mewn tai cymdeithasol dros y blynyddoedd diwethaf, nid oes cyflenwad digonol o hyd i fodloni'r galw. Dros y pum mlynedd diwethaf, rydym wedi canfod hefyd bod llai o bobl yn symud allan o dai cymdeithasol, gan olygu bod llai o eiddo gwag ar gael i'w gosod.
Gyda diffyg tai fforddiadwy ar gael, mae’n rhaid i’r Cyngor leoli pobl mewn llety dros dro, sy’n gostus ac yn aml yn anaddas ar gyfer eu hanghenion.
Mae rhagolygon presennol yn awgrymu y bydd y galw am lety a gwasanaethau digartrefedd yn parhau i gynyddu yn y dyfodol.
Mae’r holl ffactorau hyn yn rhoi straen sylweddol ar adnoddau’r Cyngor, yn ariannol ac yn ymarferol.
Trwy fuddsoddi i arbed, mae’r Cyngor yn gweithio tuag at leihau costau digartrefedd drwy ddatblygu gwasanaethau ataliol a mathau eraill o lety i bobl ddigartref, a fydd yn llai costus ac yn fwy addas ar gyfer anghenion pobl.
Pwy sydd yn talu am Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru?
Mae Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru yn gwarchod preswylwyr, busnesau a chymunedau ar draws y rhanbarth trwy wasanaethau ataliol ac ymatebol, gan gynnwys diogelwch yn y cartref, atal a diffodd tanau, ac ymateb i wrthdrawiadau ffordd, ac argyfyngau eraill gan gynnwys tywydd gwael.
Bob blwyddyn, mae’n rhaid i'r Cyngor Sir dalu mewn i gronfa gyfun y gwasanaeth tân i gwrdd â chostau blynyddol y Gwasanaeth Tân ac Achub. Caiff ei adnabod fel Ardoll flynyddol y Gwasanaeth Tân. Ym mlwyddyn ariannol 2025/26, fe dalodd y Cyngor ardoll o £11.519 miliwn.
Er nad oes ‘praesept’ ar gyfer y Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru i’w weld ar eich bil Treth y Cyngor – mae rhan o’r Dreth Cyngor rydych yn ei dalu yn helpu'r Cyngor i ariannu’r gwasanaeth tân ac achub.
Mae Awdurdod Tân ac Achub Gogledd Cymru hefyd o dan bwysau rhag costau cynyddol ac yn 2026/27, bydd angen i gynghorau gogledd Cymru gyfrannu mwy at ei gyllideb i’w helpu ei mantoli. Cyfraniad Sir y Fflint yn 2026/27 fydd £12.097 miliwn.
Cliciwch yma i gael rhagor o wybodaeth am Wasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru a rôl yr Awdurdod Tân.
Beth sy’n digwydd gyda Neuadd y Sir?
Ar 28 Chwefror 2025, bu i Gyngor Sir y Fflint roi’r gorau i ddarparu gwasanaethau yn Neuadd y Sir, yr Wyddgrug. Cafodd gweithiwyr eu symud i un ai Tŷ Dewi Sant, Ewlo neu Swyddfeydd y Sir, y Fflint.
Roedd adeilad hen iawn, Neuadd y Sir yn ddrud i’w redeg a’i gynnal.
Ers symud ei wasanaethau mae’r Cyngor yn gobeithio arbed £371,000 a fydd yn helpu tuag at gau’r bwlch o £9.529 miliwn yn y gyllideb.
Y cynllun yn y pen draw fydd bwrw ymlaen i ddymchwel yr adeilad yn gyfan gwbl, ond mae’n rhy gynnar i ddweud pryd fydd hynny.
Beth ydych chi’n ei olygu gydag ‘arbedion’, ydych chi’n cyfeirio at ‘doriadau’?
Yn y gorffennol rydym wedi defnyddio’r term ‘arbedion’, er mwyn disgrifio’r gwahanol bethau rydym wedi gallu eu gwneud i ddod o hyd i ddatrysiadau i bontio’r bwlch yn y gyllideb. Trwy wneud pethau’n wahanol bu modd i ni ‘arbed’ arian i'r Cyngor a sicrhau bod gwasanaethau’n dal i gael eu rhedeg.
Rydym wedi gwneud hyn fel hyn:
- rhedeg gwasanaethau'n effeithlon ac ‘arbed’ arian
- bod yn fwy entrepreneuraidd yn y modd rydym ni’n gwneud pethau
- lleihau’r swm o arian mae gwasanaethau yn ei dderbyn er mwyn gwario
- lleihau faint o arian sydd gennym i wario trwy godi tâl am rai gwasanaethau Ar ôl mwy na degawd, rydym bellach wedi defnyddio ein holl gyfleoedd ‘effeithlonrwydd’ ac ychydig iawn o ddewisiadau sydd gennym erbyn hyn.
Ar ôl bron i ddau ddegawd, rydym wedi defnyddio ein holl gyfleoedd am arbedion effeithlonrwydd ac ychydig iawn o opsiynau sydd ar ôl erbyn hyn.
Tra bod y setliad gwell (4.1%) gan Lywodraeth Cymru wedi ei groesawu, it still wasn’t enough to close the gap and we have been left with no option other than to make hard choices about where to cut our spending.