Alert Section

Cyplau Oed Cymysg


Newidiadau i Gredyd Pensiwn

O 15 Mai 2019, ni fydd modd i bensiynwyr hawlio Credyd Pensiwn os oes ganddynt bartner oedran gweithio. Bydd angen hawlio am Gredyd Cynhwysol nes bod eu partner yn cyrraedd Oedran Pensiwn y Wladwriaeth. Mae’r newidiadau hyn yn effeithio ar gyplau sydd ag un person dros oedran pensiynau ar 6 Chwefror 2019 a’r partner arall o dan oedran pensiynadwy. Nid yw hawliadau am Gredyd Pensiwn a wnaed cyn 15 Mai 2019 wedi’u heffeithio gan y newidiadau hyn (oni bai bod newid mewn amgylchiadau yn golygu nad ydych bellach yn gymwys am Gredyd Pensiwn).