Alert Section

Bwyd Da Sir Y Flint


Ers haf 2018 rydym wedi bod yn brysur yn mynd i’r afael a thlodi bwyd ac ansicrwydd yn Sir Y Fflint. Mae’r strategaeth tlodi bwyd wedi cael ei fabwysiadu gan y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus a Sir Y Fflint sy’n arwain a chadeirio Cynghrair Tlodi Bwyd Gogledd Cymru. Bu heriau sylweddol yn 2020 a dyma’r gwaith rydym wedi’i wneud i fynd i’r afael â’r heriau hynny hyd yma......

Cefnogaeth Profi ac Olrhain dros y Nadolig - 2020

Roedd asiantaethau fel y Banciau Bwyd ar gau dros yr ŵyl ac fe dynnodd hynny sylw at y risg bod unman i’r tîm Profi, Olrhain a Diogelu i atgyfeirio preswylwyr os oedden nhw angen cefnogaeth o ran bwyd.

Roedd Well-Fed yn mynd i’r afael â’r broblem drwy greu bocsys o fwyd sych iach oedd yn cynnwys caws, wyau a llefrith ffres. Darparwyd cerdyn ryseitiau i ddangos i’r preswylwyr sut i goginio pryd.  Roedd y bocsys yn cael eu cadw yng nghanolfan Ewloe ac roedd swyddogion cymorth llety ar gael i gyflawni’r gwasanaeth dosbarthu i riniog y drws 24/7 os oedden nhw ‘ar alwad’ yn ystod wythnos y Nadolig.

Roedd hyn yn rhoi’r sicrwydd i Well-Fed bod unrhyw breswylydd Sir Y Fflint sydd angen cymorth gyda bwyd os ydyn nhw’n cael eu cyfarwyddo i hunan-ynysu dros y Nadolig yn gallu derbyn cefnogaeth gyda bocs bwyd sych nes ei bod nhw’n gallu cael slot dosbarthu gan archfarchnad neu archebu dosbarthiad bwyd i’r cartref gan Well-Fed. Roedd y bocsys bwyd sych ar gael hefyd dros gyfnod y Nadolig i unrhyw breswylwyr sy’n gwarchod.

Bocsys Bwyd Nadolig - 2020

Mae Well-Fed wedi gweithio gyda chynghorwyr unwaith eto eleni yn gofyn iddyn nhw enwebu teulu neu unigolion sydd angen cinio Nadolig yn eu bocs. Roedden ni’n gweithio hefyd mewn cydweithrediad â gwasanaethau cymdeithasol plant ac ymgyrch bocsys esgidiau Theatr Clwyd lle’r oedd dros 150 o roddion a 120 o focsys esgidiau wedi cael eu rhoi fel rhodd.

             Delwedd o: blychau bwyd     delwedd o: dau person efo blychau bwyd     Delwedd o: blychau bwyd

Roedd y bocsys cinio Nadolig yn cynnwys cawl, cinio Nadolig, pwdin, cacennau a bocs gyda detholiad o siocledi yn cael eu dosbarthu yn ogystal ag anrhegion i blant y 126 o aelwydydd Sir y Fflint ar Noswyl Nadolig. Derbyniwyd rhodd o dros 500 o focsys gyda detholiad o siocledi. Yn ogystal â darparu bocsys cinio Nadolig i deuluoedd/unigolion, rydym hefyd wedi darparu 96 o Brydau yn ogystal â rhoddion i 32 o bobl sy'n gadael gofal yn Sir Y Fflint. Bydd yr holl brydau a bocsys yn cael eu dosbarthu gan wirfoddolwyr ar Noswyl Nadolig.

Ymgyrch marchnata bocs bwyd Well-Fed – Medi 2020

Ar ôl i’r rhaglen gwarchod ddod i ben ar 16 Awst dyma ni’n holi’r holl breswylwyr i ofyn iddyn nhw am eu hadborth ar y prydau y mae Well-Fed wedi’i ddarparu a p’un ai fod ganddyn nhw gynllun yn ei le iddyn nhw allu prynu bwyd? O hyn dyma ni’n adnabod 105 o breswylwyr sydd dal angen ein cefnogaeth.

I sicrhau fod preswylwyr yn parhau i fwyta’n dda, o’r adborth a ddarparwyd mae Well-Fed wedi creu bocsys bwyd am ddim eu hunain yn cynnwys darpariaeth ar gyfer 5 pryd bwyd ffres. Mae’r bocs yn cynnwys;

  • Dewis o brydau maethlon unigol
  • bagiau crochan araf
  • cardiau ryseitiau gyda chynhwysion i roi’r cyfle i deuluoedd goginio pryd eu hunain ac i fwyta’n dda gyda’u gilydd
  • darpariaethau ffres fel llefrith, bara, wyau, caws a chynnyrch sych, grawnfwyd, creision, bisgedi, cawl tun ayb.

               Lockdown Image10       Lockdown Image 9       Lockdown Image 12

Mae’r bocs bwyd Well-Fed am ddim yn golygu bod preswylwyr yn gwybod eu bod nhw’n gallu dibynnu ar y bocs bwyd sy’n cael ei ddosbarthu yn wythnosol i’w drws. Rydym hefyd wedi treialu dull pacio newydd i wneud y bocsys yn gwbl ailgylchadwy.

Lockdown Image 11

Dros yr ymgyrch marchnata  6 wythnos, mae’r tîm bwyd wedi galw a bob preswylydd yn wythnosol i wirio eu bod nhw’n mwynhau’r bocs bwyd a beth yw eu teimladau fel bod unrhyw newidiadau hanfodol yn cael ei wneud o flaen lansio’r bocs bwyd ar gost ostyngol sy’n dod i effaith o 23 Medi 2020.

Blwch bwyd Well-fed â chymhorthdal

Rydym wedi adnabod 30 o breswylwyr oedd yn awyddus i barhau i dderbyn y blwch bwyd Well-Fed a’i brynu gyda dim ond 30% o’r gost am gyfnod o 6 wythnos arall tra ein bod yn parhau gyda’n hymchwil i'r farchnad. Mae’r ychwanegiad o ffrwythau ffres wedi’u hychwanegu i’r bocs o’r adborth a ddarparwyd yn yr ymgyrch marchnata. Mae’r tîm bwyd yn rhedeg gwasanaeth archebu wythnosol dros y ffôn a gwirfoddolwyr yn parhau i’n cefnogi ni gyda phigo, pacio a dosbarthu.

Rhaglen Gwarchod – Ebrill – Awst 2020

Oherwydd y pandemig presennol mae nifer o’n preswylwyr wedi cael eu cynghori gan Lywodraeth Cymru i ddilyn y cyngor gwarchod ac mae hynny’n golygu eu bod nhw’n methu gadael eu cartref i brynu bwyd ac ati.

Ymateb Well-Fed oedd darparu cymorth bwyd mewn argyfwng i’r rheiny sy’n gwarchod drwy wella’r pecyn a ddarperir gan Lywodraeth Cymru gyda phrydau ffres a darpariaethau fel wyau, caws, ham a menyn yn ogystal â chefnogi ein preswylwyr diamddiffyn sydd angen cefnogaeth gyda bwyd yn ystod yr amser hwn.

      Lockdown Image 2 Lockdown Image 4 Lockdown Image 7

Dros y cyfnod gwarchod o 18 wythnos mae tîm bach o staff a gwirfoddolwyr wedi cefnogi dros 500 o breswylwyr yr wythnos gan ddarparu dros 46,000 o brydau.  Mae 27 o wirfoddolwyr o’r adran Tai a Refeniw yn ogystal â ClwydAlyn, Achub Mynydd a gwirfoddolwyr lleol wedi dosbarthu pecynnau bwyd yn uniongyrchol i gartrefi preswylwyr ar sail wythnosol.

           Lockdown Image 5 Lockdown Image 6 Lockdown Image 13 Lockdown Image 14 Lockdown Image 15

Dosbarthu Pecyn Cinio i Riniog y Drws – Gwanwyn 2020

Wrth i ysgolion ar draws Sir Y Fflint gau ar 23 Mawrth 2020 oherwydd pandemig Coronafeirws, rydym wedi cydweithio gyda Newydd Catering i allu dosbarthu dros 136,000 o becynnau cinio dros gyfnod o 7 wythnos i ddrysau’r holl ddisgyblion sy’n derbyn prydau ysgol am ddim.

Mae gyrwyr tacsis a fyddai fel arfer yn gyrru plant i’r ysgol wedi cyflawni’r dosbarthiadau dyddiol. Roedd y plant yn hoffi edrych allan am y gyrrwr dosbarthu o’u ffenestri bob dydd ac yn mwynhau eu pecyn cinio ar ôl iddo gyrraedd.

Rhaglen Crochan Araf – Mawrth 2020

Ym Mawrth dyma Well-Fed yn ennill cyllid i lansio cynllun peilota crochan araf pedair wythnos ar draws dau safle, Canolfan Yr Wyddgrug ac Ysgol Gynradd Queensferry.

Nod y cynllun peilota crochan araf oedd gallu cwrdd a gweithio gyda theuluoedd i ddeall eu perthynas gyda bwyd. Roedd pob cyfranogwr yn cael chrochan araf a 2 fag crochan araf, gyda chyfarwyddiadau ar sut i baratoi a choginio gyda nhw. Roedd yr holl gyfranogwyr yn gallu cadw’r crochan araf yr oedden nhw wedi’i dderbyn i’w hannog nhw i barhau i goginio ryseitiau ffres ar gyfer eu hunain a’u teuluoedd.

Roedd pob cyfranogwr yn cael taleb hefyd, i’w gwario ar ein prydau maethlon a ffres. Roedden nhw’n gallu dewis o’n hystod o gynnyrch ffres yn gynhwysol o brydau unigol neu fagiau crochan araf. Mae hyn yn ein galluogi i hyrwyddo’r fwydlen o’n Ffocws Bwyd Da ac y gwasanaeth cyntaf sy’n galluogi dewis o fewn adnodd tlodi bwyd.

Oherwydd Covid-19 mae’r cynlluniau peilota crochan araf wedi cael eu gohirio ar hyn o bryd.

Kicks for Kids, Holway Treffynnon – Chwefror 2020

Darparwyd 180 o brydau poeth i blant a’u teuluoedd sy’n mynychu cynllun chwarae Kicks for Kids sydd yn rhedeg am dri diwrnod dros wyliau’r hanner tymor. Mae’r plant a’r teuluoedd yn yr ardal yn mwynhau mynychu’r cynllun chwarae a chael cinio gyda’i gilydd.

Rydym wedi bod yn gweithio’n agos gyda’r preswylwyr ar adfywio’r Holway, gan ddeall  yr hyn yr hoffan nhw a sut yr ydym yn gallu eu darparu nhw gyda chymorth bwyd perthnasol a mynediad i fwyd fforddiadwy ffres i bawb.