Alert Section

Adolygiad o Ostyngiad Person Sengl Cwestiynau Cyffredin


Rydym ni wrthi’n adolygu’r holl ostyngiadau preswylwyr sengl ar gyfer trigolion sydd wedi datgan eu bod yn byw ar eu pennau eu hunain.

I helpu gydag unrhyw gwestiynau sydd gennych, rydym wedi cynnwys ambell i gwestiwn cyffredin isod.

Pam rwyf i wedi cael y llythyr/e-bost hwn?
Mae’r Cyngor wrthi’n adolygu amgylchiadau’r holl bobl sy’n hawlio’r gostyngiad preswylydd sengl. Yr unig beth rydym yn ei wneud yw gwirio eich bod yn dal yn gymwys i gael y gostyngiad preswylydd sengl. 

Sut ydw i’n ymateb i’r adolygiad?
Y ffordd hawsaf i ymateb i’r adolygiad yw defnyddio’r gwasanaethau neges destun neu ar-lein. Darllenwch eich llythyr i weld sut mae gwneud hyn gan ddefnyddio eich cod 6-digid unigryw. 

Beth sy’n digwydd os nad wyf yn ymateb i’r adolygiad? 
Byddwn yn cymryd bod eich sefyllfa wedi newid a byddwn yn tynnu’r gostyngiad oddi wrthoch. Byddwch y cael bil Treth Cyngor newydd.

Beth sy’n digwydd os yw’r ffurflen yn cael ei chwblhau ar ôl y dyddiad terfyn o 14 diwrnod? 
Os nad yw’r ffurflen yn cael ei dychwelyd o fewn 14 diwrnod, byddwch yn cael llythyr atgoffa. Os na fyddwch yn ateb y llythyr atgoffa, byddwn yn cymryd bod eich sefyllfa wedi newid a byddwn yn tynnu’r gostyngiad oddi wrthoch. Byddwch y cael bil Treth Cyngor newydd.

Rydw i wedi ateb yn barod, ond wedi cael llythyr atgoffa.
Os ydych chi wedi anfon eich ymateb o fewn yr ychydig ddiwrnodau diwethaf, mae’n debygol iawn ein bod wedi’i gael ar ôl anfon y llythyr atgoffa, ac felly nid oes angen ymateb eto. Os anfonoch chi eich ymateb dros wythnos yn ôl, mae siawns na fyddwn wedi’i gael ac efallai y byddai’n well i chi roi cynnig arall arni.

Os ydych wedi ymateb trwy neges destun, mae’n bwysig gwirio eich bod wedi dilyn y cyfarwyddiadau’n gywir i sicrhau ein bod wedi cael eich ymateb. Os nad ydych wedi cael neges yn diolch am eich ymateb, efallai nad yw wedi cael ei gofnodi, felly dilynwch y cyfarwyddiadau ar eich llythyr atgoffa eto.

Fe wnes i ymateb yn hwyr/wnes i ddim ymateb i’r adolygiad ac mae fy ngostyngiad wedi’i dynnu. Fi yw’r unig breswylydd sy’n oedolyn; sut ydw i’n cael y gostyngiad eto?
Gallwch ailymgeisio am ostyngiad person sengl trwy ddilyn y ddolen isod a llenwi’r ffurflen. 
www.siryfflint.gov.uk/AdolygiadGPS

Rydw i eisiau llenwi’r ffurflen bapur, ond angen ychydig o help.
Os mai chi yw’r unig oedolyn sy’n byw yn yr eiddo, ticiwch y blwch ar y dde ar frig eich ffurflen. Ewch ymlaen i lenwi Adrannau B, C a D os yw’r rhain yn berthnasol i chi. 

Os nad chi yw’r unig oedolyn sy’n byw yn yr eiddo bellach, ticiwch y blwch ar y chwith ar frig eich ffurflen a rhowch fanylion yr unigolyn/unigolion ychwanegol yn Adran A.

Llofnodwch y ffurflen a rhoi eich enw mewn llythrennau bras a’r dyddiad arni a’i dychwelyd i’r cyfeiriad sydd ar waelod eich llythyr. Sylwch NA FYDD unrhyw lythyrau na thalwyd digon o dâl postio i’w hanfon yn cael eu danfon atom a gallai eich gostyngiad gael ei dynnu o ganlyniad.

Pam mae’n rhaid i mi ddychwelyd y ffurflen i gyfeiriad yn Nottingham?
Mae’r cyfeiriad sydd i’w weld ar eich llythyr yn gyfleuster sganio diogel i awdurdodau leol yn Nottingham, sy’n darparu gwasanaethau i lawer o awdurdodau lleol. 

Beth ddylwn i ei wneud os oes rhywun yn defnyddio fy nghyfeiriad ar gyfer gohebiaeth yn unig neu fod post y trigolion blaenorol yn dal i ddod yma?
Ni fydd hyn yn effeithio ar eich cymhwyster i gael gostyngiad preswylydd sengl os mai chi yw’r unig oedolyn sy’n byw yn yr eiddo. Rydym yn argymell eich bod yn dychwelyd unrhyw bost annisgwyl sydd heb ei gyfeirio atoch chi yn ôl at yr anfonwr. Os byddwch wedi caniatáu i rywun ddefnyddio eich cyfeiriad ar gyfer post, ond nad ydynt yn byw gyda chi, ymatebwch gan ddefnyddio’r ffurflen bapur, a llenwch Adran B.

Mae ffrind / perthynas yn aros gyda mi ambell noson yr wythnos. Ydi hyn yn golygu nad wyf yn gymwys bellach? 
Os yw eich ffrind neu berthynas yn cadw eu heiddo yn eich tŷ chi, bydd eich cyfeiriad yn cael ei gyfrif fel eu prif breswylfa nhw. Gan hynny, ni fyddech yn gymwys i gael gostyngiad preswylydd sengl mwyach, a byddai angen i chi ddatgan eu bod yn byw gyda chi yn yr adolygiad. Os ydyn nhw’n talu Treth y Cyngor yn rhywle arall ac yn cadw eu heiddo yn y cyfeiriad hwnnw, ni fyddai angen i chi eu datgan, er, os yw eu post yn cael ei ddanfon i’ch cyfeiriad chi, dylech nodi’r wybodaeth honno wrth lenwi’r adolygiad.

Rydw i eisoes wedi rhoi gwybod i’r Cyngor am newid mewn amgylchiadau. Oes angen i mi lenwi’r ffurflen?
Oes. Dylech gynnwys holl fanylion eich sefyllfa ar hyn o bryd. 

Rydw i’n byw ar fy mhen fy hun ar hyn o bryd, ond mae rhywun yn symud ataf cyn hir. Sut ddylwn i ymateb i’r adolygiad?
Os yw’r unigolyn yn symud atoch cyn hir, gallwch lenwi’r adolygiad gan nodi’r dyddiad maent am symud atoch. Bydd hyn yn sicrhau bod eich cyfrif yn cael ei ddiweddaru’n gywir pan maent yn symud. Os nad ydynt yn symud am beth amser neu os nad ydych yn gwybod pryd, llenwch yr adolygiad gan nodi mai chi yw’r unig oedolyn sy’n byw yno a chysylltwch â Chyngor Sir y Fflint i roi gwybod iddynt pan mae’r person hwnnw’n symud atoch.

Sut allaf i gael gwybod a yw preswylydd ychwanegol yn un sy’n cael ei ddiystyru o safbwynt Treth y Cyngor?
Mae gwybodaeth ychwanegol am breswylwyr sy’n cael eu diystyru ac sydd ddim yn gymwys i dalu Treth y Cyngor i’w gweld trwy ddilyn y ddolen isod.

www.siryfflint.gov.uk/trethcyngor

Pam rydw i wedi cael neges destun ar ôl i mi lenwi’r ffurflen?
I sicrhau bod pawb yn talu’r swm cywir o dreth, rydym ni’n cynnal gwiriadau ychwanegol o dro i dro, i wirio eich bod yn gymwys i hawlio gostyngiad preswylydd sengl ar ôl i ni gael eich ymateb. Rhag i ni dynnu’r gostyngiad oddi wrthoch, dilynwch y dolenni sydd yn yr ail neges destun a llenwch y ffurflen ychwanegol ar-lein. 

Sut allaf i fod yn siŵr bod y negeseuon wedi dod gan y Cyngor?
Bydd unrhyw negeseuon testun sydd wedi’u hanfon gan y Cyngor ynglŷn â’r adolygiad ar ostyngiad person sengl yn dod o ‘Middlesbrough’ ac yn dilyn ymlaen o’r neges ddiolch a gawsoch ar ôl cwblhau eich datganiad. Hefyd, dim ond gyda’ch rhif cyfrif Treth Cyngor a’ch cod post y byddwch yn gallu mewngofnodi. 

Beth sy’n digwydd os ydw i’n cael ail neges destun ac nad ydw i’n llenwi’r ffurflen?
Byddwn yn cymryd bod eich sefyllfa wedi newid a byddwn yn tynnu’r gostyngiad oddi wrthoch. Byddwch y cael bil Treth Cyngor newydd.

Beth ddylwn i ei wneud os yw fy sefyllfa i’n wahanol i’r enghreifftiau uchod?
Os ydych yn dal yn ansicr sut i lenwi’r ffurflen, neu fod eich sefyllfa’n wahanol i’r enghreifftiau uchod, llenwch y ffurflen ar-lein a dewis ‘Arall (‘Nid yw fy amgylchiadau yn cyd-fynd â’r categorïau uchod’ a rhowch eglurhad am eich sefyllfa bresennol.

Dewis arall yw dychwelyd y ffurflen bapur i’r cyfeiriad sydd ar waelod eich llythyr, gan gynnwys llythyr gyda hi sy’n egluro eich sefyllfa. 

Pa wybodaeth gredyd sydd gennych chi amdanaf i?

Nid oes gennym unrhyw wybodaeth gredyd amdanoch. Os hoffech weld eich ffeil credyd, cysylltwch ag unrhyw un o’r prif asiantaethau credyd:

Transunion (www.transunion.co.uk) 
Equifax (www.equifax.co.uk) 
Experian (www.experian.co.uk)