Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Taliad o £150 tuag at gostau ynni 

Published: 19/04/2022

Money Fotolia_40586732_XS[1].jpg

Yn ddiweddar cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynllun taliad o £150 i helpu gyda chostau ynni i aelwydydd sydd ym mandiau treth y cyngor A-D ynghyd ag aelwydydd ym mandiau treth y cyngor A-I sy’n cael Gostyngiad Treth y Cyngor (a elwir yn flaenorol yn fudd-dal treth y cyngor.  Mae’r Cyngor bellach yn gweithio mewn partneriaeth â Llywodraeth Cymru i weinyddu’r cynllun hwn.

Bydd y £150 yn daliad uniongyrchol i aelwydydd ac nid yw’n ad-daliad ar filiau treth y cyngor. Bydd un taliad i bob aelwyd sy’n gymwys. Nid yw eiddo gwag ac ail gartrefi yn gymwys ar gyfer taliad, dim ond eiddo a oedd wedi eu meddiannu ar 15 Chwefror 2022. Dylai trigolion sy’n talu eu treth y cyngor trwy ddebyd uniongyrchol gael y £150 yn awtomatig yn eu cyfrif banc erbyn dydd Mercher 27 Ebrill.  

Bydd aelwydydd sydd yn y bandiau eiddo cymwys ond nad ydynt yn talu eu treth y cyngor trwy ddebyd uniongyrchol, neu nad oes ganddynt dreth y cyngor i’w dalu, hefyd yn cael llythyr gan y Cyngor gyda manylion ynghylch sut i gofrestru ar gyfer y taliad o £150. Disgwyliwn i aelwydydd ddechrau cael llythyrau o 27 Ebrill. 

Dywedodd David Barnes, Rheolwr Refeniw Cyngor Sir y Fflint:

“Rydym yn gweithio i sicrhau bod y taliadau o £150 yn cyrraedd cyfrifon banc cyn gynted â phosib.  Bydd y rhan fwyaf o aelwydydd yn cael eu taliad yn awtomatig ble mae gennym eu manylion banc, ond os nad oes gennym y manylion hyn, byddwn yn ysgrifennu at aelwydydd cymwys i gofrestru ar gyfer y taliad hwn trwy ofyn i drigolion ddefnyddio ffurflen gofrestru ar-lein ddiogel a syml.

“Mae angen i aelwydydd fod yn ofalus o ran diogelwch data ac rydym yn erfyn ar aelwydydd i fod yn ystyrlon o e-byst, negeseuon testun neu alwadau ffôn annisgwyl gan rywun amheus sy’n cynnig gwybodaeth am y cynllun, gan y gallai hyn fod gan rywun sy’n ceisio dwyn gwybodaeth bersonol, gan gynnwys manylion cyfrif banc. Os oes gan aelwydydd unrhyw gwestiynau, gall trigolion bob amser gysylltu â’r Cyngor ar 01352 704848.”