Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Croeso i dy bleidlais!

Published: 10/03/2022

WTYV_May2022_twitter_posts_ForeignNational_2.jpgMae Dydd Iau 10 Mawrth 2022 yn ddiwrnod “Croeso i Dy Bleidlais” - i godi ymwybyddiaeth ymysg dinasyddion tramor am eu hawl i bleidleisio yn etholiadau’r cyngor a fydd yn cael eu cynnal yng Nghymru’n fuan. 

Mae pawb ohonom eisiau gweld newid cadarnhaol yng Nghymru.  Ond er mwyn i ddemocratiaeth weithio i bawb, mae angen i bawb yng Nghymru gymryd rhan.

Dyna pam ein bod yn ymuno â chynghorau eraill yn galw ar wladolion tramor ar draws Cymru i ymgysylltu â democratiaeth er mwyn i’w lleisiau gael eu clywed.  

Dywedodd Swyddog Canlyniadau Sir y Fflint, Neal Cockerton:

“Gall mwy o bobl yng Nghymru bleidleisio nag erioed o’r blaen, yn cynnwys preswylwyr tramor sy’n gymwys yng Nghymru. Os ydych chi’n gymwys, gallwch ddweud eich dweud am yr hyn sy’n digwydd yng Nghymru yn y dyfodol drwy gymryd rhan a defnyddio eich pleidlais.  

“Mae democratiaeth yn effeithio ar bopeth o’ch amgylch chi. Felly, beth bynnag ydych chi’n angerddol yn ei gylch, mae pleidleisio yn etholiadau’r cyngor lleol yn ffordd wych o gymryd rhan.” 

Er mwyn ichi allu codi’ch llais a mynegi’ch barn mae’n rhaid ichi gofrestru i bleidleisio.  Gallwch gofrestru i bleidleisio drwy fynd i www.gov.uk/cofrestru-i-bleidleisio. Dim ond pum munud mae’n ei gymryd a’r cyfan sydd ei angen arnoch yw’ch rhif yswiriant gwladol arnoch a dyddiad geni. Y dyddiad cau ar gyfer cofrestru i bleidleisio yn etholiad llywodraeth leol 2022 yw 14 Ebrill 2022. 

Os na allwch chi gofrestru ar-lein, gallwch gofrestru drwy’r post. Lawrlwythwch ffurflen yn gov.uk/government/collections/register-to-vote-paper-forms.  

Os nad oes gennych chi rif yswiriant gwladol, mae angen i chi nodi hyn ar eich cais i gofrestru, ac yna parhau i’w gyflwyno.  Yna bydd eich Swyddog Cofrestru Etholiadol yn cysylltu â chi i ofyn i chi ddarparu tystiolaeth ddogfennol i brofi pwy ydych chi. 

I gael rhagor o wybodaeth, ewch i adran Cwestiynau Cyffredin y Comisiwn Etholiadol drwy glicio ar y ddolen hon: electoralcommission.org.uk/cy/rwyf-yneg-pleidleisiwr/partner-elusen-neu-gyngor-lleol/adnoddau-ar-gyfer-pleidleiswyr-sydd-newydd-eu-rhyddfreinio-croeso-i-dy-bleidlais.