Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gyda’n gilydd gallwn ni i gyd helpu i gadw Sir y Fflint yn ddiogel

Published: 28/09/2020

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi ymuno â chyrff cyhoeddus a busnesau ar draws Cymru a Lloegr i arddangos posteri Cod QR Ap COVID-19 y GIG yn ein hadeiladau cyhoeddus. 

Drwy arddangos y posteri Cod QR unigryw ymhob un o adeiladau'r Cyngor sydd ar agor i'r cyhoedd ar hyn o bryd, gall cwsmeriaid ac ymwelwyr ddefnyddio’r nodwedd ‘mewngofnodi' ar yr ap newydd.

Drwy sganio’r cod QR bob tro rydych yn ymweld, os oes rhywun sydd wedi ymweld ar yr un adeg â chi yn profi’n bositif am y coronafeirws, yna fe fyddwch yn cael rhybudd. Mae hysbysiad yr ap yn anhysbys ac ni fydd yn crybwyll enw’r lleoliad yr ydych wedi ymweld ag ef, yr hyn fydd yn ei wneud yw rhoi gwybod i chi y gallech fod wedi dod i gysylltiad â'r coronafeirws.

Mae gofyn i bob busnes, mannau addoli, sefydliadau cymunedol sydd ar agor i’r cyhoedd a digwyddiadau a gaiff eu cynnal mewn lleoliad ffisegol arddangos Codau QR COVID-19 y GIG sy’n hawdd i gael mynediad atynt.

Mae’n parhau i fod yn ofynnol yn ôl y gyfraith yng Nghymru i fusnesau risg uchel i gofnodi a chadw manylion ymwelwyr am 21 diwrnod. Felly yn ogystal â sganio’r Cod QR fe fydd hi’n ofynnol o hyd i ddefnyddwyr yr ap i ddarparu eu manylion cyswllt wrth ymweld â busnesau risg uchel gan gynnwys tafarndai, tai bwyta, gwasanaethau cyswllt agos fel lleoedd trin gwallt a siopau barbwr, canolfannau hamdden a champfeydd dan do, sinemâu, casinos a neuaddau bingo.  

Mae Ap COVID-19 y GIG yn rhan bwysig o’r rhaglen Profi, Olrhain, Diogelu i reoli ymlediad COVID-19. 

Yn ogystal â'r nodwedd ‘mewngofnodi’, drwy lawrlwytho’r ap fe fyddwch yn derbyn rhybuddion ar y lefel o risg o ran y coronafeirws yn eich ardal cod post chi a lle rydych wedi bod yn agos i ddefnyddwyr eraill yr ap sydd wedi profi’n bositif.  Fe fyddwch yn gallu gweld a oes gennych symptomau'r coronafeirws, cael cymorth i archebu prawf, cael eich canlyniadau’n gyflym a chadw golwg ar eich cyfnod yn hunan ynysu. 

Mae’n gyflym, syml a diogel a bydd yn helpu'r rhai sy'n olrhain cysylltiadau i gysylltu â chi yn gyflym os oes angen. 

Po fwyaf o bobl sy’n defnyddio’r ap yna'r mwyaf fydd ein siawns o ostwng ymlediad y feirws a chadw ein hunain, ein hanwyliaid a'n gilydd yn ddiogel. 

Gallwch lawrlwytho’r ap heddiw yn yr App Store apps.apple.com/gb/app/nhs-covid-19/id1520427663  a Google Play play.google.com/store/apps/details?id=uk.nhs.covid19.production

Gellir canfod cyngor i fusnesau ynglyn â'r ap a sut i lawrlwytho eu cod QR unigryw yma https://llyw.cymru/ap-covid-19-y-gig-canllawiau-i-fusnesau-sefydliadau.