Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gwefan ar ei newydd wedd

Published: 22/09/2020

Rydym wedi rhoi gwedd newydd sbon ar ein gwefan (www.siryfflint.gov.uk er mwyn ei gwneud yn haws i bobl ei defnyddio.  

Mae ein gwefan yn sianel bwysig i’n helpu ni ddarparu gwasanaethau modern ac effeithlon sydd ar gael ar adeg a lleoliad sy’n gyfleus i’n cwsmeriaid. Mae’n cadw at y Canllawiau Hygyrchedd Cynnwys y We presennol ac yn golygu bod cynnwys yn fwy hygyrch i ystod ehangach o pobl gydag anableddau, yn cynnwys y rhai hynny sydd â namau difrifol ar eu golwg a golwg gwan, byddardod a diffyg ar y clyw.  

Mae’r edrychiad newydd yn fodern ac yn syml sy’n adlewyrchu datblygiad gwefannau modern. Bydd yn caniatáu i bobl gael mynediad at y gwasanaethau a chwilio am y wybodaeth y maent ei hangen ar-lein.

Rydym hefyd wedi gwella ‘Fy Nghyfrif’, ardal wedi’i phersonoli ar ein gwefan lle gallwch ei haddasu i arddangos gwybodaeth sy’n diwallu eich dymuniadau a’ch diddordebau unigol. Gallwch hefyd olrhain cynnydd unrhyw geisiadau a wnaethoch i’r Cyngor ar-lein, cael gwybodaeth am wastraff ac ailgylchu, gweld pwy ydi eich cynghorydd lleol a llawer iawn mwy. Gall ein tenantiaid hefyd ddefnyddio Fy Nghyfrif i wirio cynnydd atgyweiriad, adolygu a thalu rhent. Mae ‘Fy Nghyfrif’ ar gael 24 awr y dydd, 7 diwrnod yr wythnos.

Rydym yn falch o’r unigolion a roddodd help llaw i ni wneud y gwelliannau hyn drwy gymryd rhan mewn sesiynau ymgysylltu â’r cwsmer. Mae eu syniadau wedi helpu i wneud ein gwefan yn haws i’w defnyddio i bobl wneud y mwyaf o’r manteision y mae gwasanaethau digidol ar-lein yn eu cynnig. 

Dywedodd y Cynghorydd Billy Mullin, Aelod Cabinet Gwasanaethau Corfforaethol: 

"Mewn cyfnod pan rydym i gyd yn croesawu’r defnydd o dechnoleg ddigidol i gadw mewn cysylltiad â theulu a ffrindiau a rheoli ein bywydau o ddydd i ddydd, rwyf yn falch iawn ein bod wedi llwyddo i wneud gwelliannau allweddol i’n gwefan.” 

“Hoffwn ddiolch i’r preswylwyr hynny a wirfoddolodd i gymryd rhan yn ein sesiynau ymgysylltu â’r cwsmer ac rydym yn edrych ymlaen at weithio gyda’n cymunedau yn y dyfodol i wella cynnwys a nodweddion ymhellach.” 

Mae ein Strategaeth Ddigidol yn uchelgeisiol ac yn anelu i wella gwasanaethau ar-lein      i annog mwy o bobl i gael mynediad i wasanaethau digidol.  Y cam nesaf ar ein taith yw i gyflwyno porth talu newydd i’w gwneud yn haws i dalu am bethau ar-lein.  I gymryd rhan a darparu eich syniadau a’ch adborth, ewch i: https://www.siryfflint.gov.uk/cy/Resident/Contact-Us/Website-Feedback.aspx