Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


 NEW Homes yn cyhoeddi eiddo newydd

Published: 10/08/2020

Mae’r darparwr tai sy’n seiliedig yn Sir y Fflint, North East Wales Homes, yn falch o gyhoeddi eu bod wedi prynu wyth cartref fforddiadwy newydd gan y datblygwr eiddo sy’n seiliedig yng Nglannau Dyfrdwy, Edwards Homes, ar ei ddatblygiad Mayfield Park yn Saltney, Sir y Fflint.

Mae’r wyth eiddo yn ffurfio rhan o bortffolio rhentu fforddiadwy’r cwmni a symudodd preswylwyr newydd i mewn i’w cartrefi ar ddechrau’r haf, ar ôl cyfnod o farchnata gan Tai Teg, Darparwr Cofrestredig Tai Fforddiadwy Sir y Fflint.

Dyma’r ail gynllun llwyddiannus. Roedd y cyntaf yn Garden Village, lle mae North East Wales Homes wedi partneru ag Edwards Homes, ac mae cynlluniau strategol yn cael eu datblygu ar gyfer cynlluniau yn y dyfodol ar draws y sir.

Dywedodd y Cynghorydd Dave Hughes, Aelod Cabinet Tai Cyngor Sir y Fflint:

“Mae NEW Homes wedi’i sefydlu yn benodol i gwrdd â'r angen am dai fforddiadwy yn ein cymunedau lleol ac mae sicrhau’r tai hyn fel rhan o ganiatâd cynllunio’r datblygwr yn helpu i gyflawni hyn.” 

Dywedodd Paul Humphries, Cadeirydd North East Wales Homes:

“Mae North East Wales Homes yn falch o ddarparu’r cynllun hwn o ansawdd uchel ar gyfer tai fforddiadwy newydd yn Mayfield Park mewn partneriaeth ag Edwards Homes. Rydym wedi ymrwymo i weithio gyda datblygwyr lleol i gyflwyno cyfleoedd newydd i bobl leol gael mynediad at lety modern o safon. O ystyried y cyfnod ansicr rydym yn ei brofi ar hyn o bryd, ni fu darparu cartrefi fforddiadwy erioed mor bwysig.”

Dywedodd Neil Edwards, Rheolwr Gyfarwyddwr Edwards Homes:

“Mae Edwards Homes yn falch o weithio gyda North East Wales Homes ar y datblygiad hwn, a gobeithio mai hwn fydd y cyntaf o nifer o drefniadau partneriaeth yn Sir y Fflint dros y blynyddoedd nesaf.  Mewn gwirionedd, rydym hefyd mewn trafodaethau gyda North East Wales Homes eto ar hyn o bryd am ein datblygiad newydd yn Broad Oak, Llaneurgain, i ddarparu cartrefi fforddiadwy y mae mawr eu hangen yn Sir y Fflint.”

Rhaid i ymgeiswyr sydd â diddordeb mewn datblygiadau’r dyfodol fod wedi’u cofrestru â Tai Teg a bodloni eu meini prawf. I gael rhagor o wybodaeth a chanllawiau am sut i wneud cais am un o’r eiddo hyn, ewch i taiteg.org.uk neu anfonwch e-bost at info@taiteg.org.uk.

 

Mayfield Park Saltney.jpg