Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Stryd Fawr Bwcle

Published: 03/08/2020

Yn 2019, ffurfiwyd gweithgor gan Gyngor Sir y Fflint, Cyngor Tref Bwcle a masnachwyr lleol er mwyn edrych ar newidiadau posibl i’r briffordd a gwelliannau ym Mwcle. 

Roedd y gweithgor wedi bwriadu cynnal ymgynghoriad cyhoeddus i benderfynu a fyddai aelodau’r cyhoedd a rhanddeiliaid o blaid cynllun i ddadwneud y Stryd Fawr fel lle i gerddwyr dros gyfnod prawf, gan gael gwared ar y parth di-draffig, agor y ffordd i gerbydau a chaniatáu parcio am ddim am gyfnodau byr ar ochr y stryd yn y dref. 

Mae’r gweithgor wedi penderfynu na fyddai’n bosibl cynnal ymgynghoriad ystyrlon ar yr adeg hon ac y byddai’n amhriodol gwneud newidiadau sylweddol tra mae busnesau’n adfer ar ôl effeithiau’r cyfyngiadau. Bydd yr ymgynghoriad arfaethedig yn cael ei ohirio am gyfnod o dri mis i gychwyn. 

Yn y cyfamser, bydd y gweithgor yn parhau i edrych ar gyfleoedd i wella cysylltiadau o fewn ac o amgylch y dref, mae’n cynnwys datblygu llwybrau teithio llesol pellach a chynlluniau diogelwch ar y ffordd.