Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus i Reoli Alcohol 

Published: 31/07/2020

Mae Cyngor Sir y Fflint yn bwriadu ymgynghori ynglyn ag ymestyn y Gorchymyn Diogelu Mannau Agored Cyhoeddus i Reoli Alcohol fel sy’n ofynnol yn ôl Deddf Ymddygiad Gwrthgymdeithasol, Troseddu a Phlismona 2014. 

Byddai’r gwaharddiadau a gynigir yn gofyn fod: 

  1. unrhyw berson sydd, heb reswm digonol, yn parhau i yfed diod feddwol mewn man cyhoeddus o fewn Ardal y Cyfyngiad pan fydd swyddog awdurdodedig yn gofyn iddo beidio, yn cyflawni trosedd.
  2. unrhyw berson sydd mewn man cyhoeddus o fewn yr Ardal y Cyfyngiad, heb reswm digonol, sy’n methu ag ildio unrhyw ddiod feddwol sydd yn eu meddiant pan fydd swyddog awdurdodedig yn gofyn iddynt wneud hynny, yn cyflawni trosedd. 
  3. mae’n rhaid i swyddog awdurdodedig sy’n gosod gofyniad o dan Erthygl 4(a0 ac/neu 4(b) uchod ddweud wrth y person fod methu a chydymffurfio, heb reswm digonol, gyda’r gwaharddid ac/neu’r gofyniad yn drosedd. 

Byddai torri unrhyw amod yn arwain at roi Rhybudd Cosb Benodedig i’r person sy’n methu â chydymffurfio â’r gwaharddiad.

Mae’r mater hwn yn agored i ymgynghori arno o’r 3 Awst 2020 drwy gyfrwng arolwg ar y dudalen gwe ganlynol www.flintshire.gov.uk/alcoholPSPO sy’n cynnwys rhestr o safleoedd posibl ble byddai’r gwaharddiadau’n cael eu gweithredu, dogfen Cwestiynau Cyffredin, a chopi o’r gorchymyn drafft. 

A fyddech cystal â threulio amser yn llenwi’r arolwg? Rydym yn gwerthfawrogi eich barn a bydd yr ymgynghori ar agor hyd 4 Medi 2020.