Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyngor yn croesawu ehangu busnes lleol

Published: 16/01/2020

Mae Cyngor Sir y Fflint wedi croesawu'r newyddion fod KK Fine Foods wedi amlinellu cynllun ehangu £5.5m a fyddai’n creu 40 o swyddi ychwanegol.

Dywedodd Aelod Cabinet Datblygu Economaidd Cyngor Sir y Fflint, y Cynghorydd Derek Butler:

“Mae hwn yn newyddion gwych i KK Fine Foods – busnes lleol sefydledig a sydd wedi ei gefnogi gan dîm Datblygu Economaidd Sir y Fflint ers nifer o flynyddoedd. Mae hefyd yn newyddion da i economi leol Sir y Fflint. Llongyfarchiadau i bawb sydd wedi helpu i wireddu hyn ac rwy’n dymuno’r gorau i KK Fine Foods ar gyfer eu dyfodol disglair.”

Mae KK Fine Foods, sydd wedi ei leoli ym mharth Menter Glannau Dyfrdwy, yn ehangu ac yn amrywio ei gyfleuster cynhyrchu i gyflenwi prydau parod wedi eu rhewi yn y sector manwerthu, ar ôl arbenigo yn y sectorau tai bwyta a thafarndai.

Butler, Derek.jpg

 

Cyng Derek Butler