Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gwahodd preswylwyr i rannu eu barn ar reoli chwyn ar draws Sir y Fflint
Published: 22/10/2026
Mae Cyngor Sir y Fflint yn gofyn i breswylwyr rannu eu barn ar sut y rheolir chwyn ar ffyrdd, palmentydd a mannau cyhoeddus eraill yn y sir.
Bydd adborth a gesglir yn ystod yr ymgynghoriad yn helpu wrth wneud penderfyniadau, polisi’r dyfodol a sut mae’r Cyngor yn cydbwyso diogelwch y cyhoedd, ystyriaethau amgylcheddol a gwneud y defnydd gorau o’r adnoddau sydd ar gael.
Mae rheoli chwyn yn chwarae rhan bwysig wrth gynnal a chadw ffyrdd a phalmentydd diogel a hygyrch trwy atal chwyn rhag rhwystro llwybrau cerdded, cyfyngu gwelededd, difrodi wynebau ffyrdd ac effeithio ar systemau draenio, ynghyd â chael effaith negyddol ar ymddangosiad mannau cyhoeddus.
Yn y blynyddoedd diweddar, mae’r Cyngor wedi gostwng ei ddefnydd o chwynladdwyr sy’n seiliedig ar glyphosate a bellach yn defnyddio dulliau eraill o reoli chwyn. Mae hyn yn cynnwys cyfuniad o frwsio a thorri’n fecanyddol, chwynnu â llaw, a thriniaethau ewyn, stêm a dwr poeth.
Gall y dulliau hyn fod angen ymweliadau yn amlach a mwy o amser gweithwyr, gan olygu nad yw’n bosib cynnal bob lleoliad i’r un safon, bob amser.
Mae’r symudiad i ffwrdd o glyphosate yn dod mewn ymateb i bryderon cynyddol am effaith posib chwynladdwyr cemegol ar yr amgylchedd ac iechyd dynol.
Meddai’r Cynghorydd Ted Palmer, Aelod Cabinet Priffyrdd, Asedau a Gwarchod y Cyhoedd: “Mae rheoli chwyn yn ymwneud â chyflawni’r cydbwysedd cywir rhwng cadw ein cymunedau’n ddiogel ac yn hygyrch a chadw ein strydoedd yn lân, yn daclus ac wedi'u cynnal a'u cadw'n dda, gan amddiffyn yr amgylchedd, hyrwyddo bioamrywiaeth a gwneud y defnydd gorau o arian cyhoeddus.
“Rydym yn awyddus iawn i glywed barn ein preswylwyr wrth i ni barhau i siapio ac addasu ein ffordd newydd o weithio.”
I rannu eich barn, ewch i www.siryfflint.gov.uk/Ymgynghoriadau