Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Preswylwyr yn cael eu gwahodd i ddweud eu dweud am Strategaeth Drawsnewid ddrafft
Published: 22/09/2026
Mae preswylwyr yn cael eu hannog i leisio barn ar gynlluniau Cyngor Sir y Fflint i wella a moderneiddio gwasanaethau dros y blynyddoedd nesaf.
Mae ymgynghoriad ar Strategaeth Drawsnewid Strategol ddrafft y Cyngor ar gyfer 2026 i 2029 bellach ar agor ac yn cau ar 4 Hydref 2026.
Mae’r strategaeth ddrafft yn gosod sut mae’r Cyngor yn bwriadu moderneiddio a gwella gwasanaethau wrth ymateb i bwysau ariannol parhaus a galw cynyddol am gymorth. Mae’n cynnwys cynlluniau i wneud gwell defnydd o dechnoleg, gweithio’n agosach gyda sefydliadau eraill a chymunedau, a sicrhau bod y Cyngor yn parhau i fod yn gynaliadwy yn ariannol.
Mae’r strategaeth hefyd yn canolbwyntio ar wella profiad cwsmeriaid, a gwell defnydd o wybodaeth a data i gefnogi gwneud penderfyniadau.
Gallai unrhyw gynigion y dyfodol a allai olygu newidiadau i wasanaethau neu bolisïau fod yn amodol ar eu hasesiadau a’u prosesau ymgynghori eu hunain.
Dywedodd y Cynghorydd Richard Jones, Dirprwy Arweinydd y Cyngor ac Aelod Cabinet Trawsnewid, Twf a Lle: “Rydym eisiau clywed gan gymaint â phosib o bobl ynglyn â’n cynlluniau ar gyfer trawsnewid.
“Bydd eich adborth yn ein helpu i ddatblygu strategaeth sy’n cefnogi arloesi a gwelliant wrth barhau i fodloni anghenion ein cymunedau.
“Yn Sir y Fflint rydym wedi herio ein hunain i wneud pethau’n wahanol er mwyn i ni allu gwella gwasanaeth neu arbed arian. Mae’r Strategaeth Drawsnewid hon yn adeiladu ar yr etifeddiaeth honno drwy annog arloesedd yn y modd yr ydym yn darparu ein gwasanaethau, yn gwella perfformiad a thorri costau.
"Yn fwy na dim, mae’n ymwneud â darparu gwasanaeth cwsmeriaid rhagorol i breswylwyr a busnesau fel ei gilydd - ond ychydig yn wahanol.”
GalI pobl gymryd rhan yn yr ymgynghoriad trwy fynd i siryfflint.gov.uk/Ymgynghoriadau.
Bydd safbwyntiau a rennir yn yr ymgynghoriad yn helpu i siapio’r Strategaeth derfynol, a fydd yna’n cael ei chyflwyno i gynghorwyr i’w hystyried a’i mabwysiadu.