Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Gwasanaeth Parcio a Theithio am Ddim ar gyfer Gwyl Bwyd a Diod yr Wyddgrug
Published: 16/09/2026
Gall ymwelwyr sy'n teithio i Wyl Bwyd a Diod yr Wyddgrug y penwythnos hwn fanteisio ar wasanaeth Parcio a Theithio am ddim sy'n cael ei ddarparu gan Gyngor Sir y Fflint.
Bydd y gwasanaeth yn gweithredu ddydd Sadwrn 19 Medi a dydd Sul 20 Medi, gan helpu mynychwyr yr wyl i fwynhau’r digwyddiad gan ysgafnhau’r pwysau ar barcio yng nghanol y dref.
Mae'r Cyngor unwaith eto yn falch o gefnogi'r wyl drwy ddarparu gwasanaeth bws gwennol am ddim rhwng Neuadd y Sir a Gorsaf Fysiau'r Wyddgrug.
Ar y ddau ddiwrnod, bydd dau fws gwennol yn gweithredu'n barhaus. Ar y dydd Sadwrn, bydd y gwasanaeth yn rhedeg o 9.30am tan 6pm, gyda'r bws olaf yn gadael Gorsaf Fysiau'r Wyddgrug am 5.55pm.
Ar y dydd Sul, bydd y gwasanaeth yn rhedeg o 10am tan 5.15pm, gyda'r bws olaf yn gadael Gorsaf Fysiau'r Wyddgrug am 5.10pm.
Bydd parcio yn y maes parcio haenog yn Neuadd y Sir yn rhad ac am ddim i ymwelwyr sy'n defnyddio'r gwasanaeth Parcio a Theithio, ond bydd angen 'talu ac arddangos' ar y dydd Sadwrn yn y maes parcio aml-lawr ac yn y maes parcio o flaen Neuadd y Sir. Ni chodir tâl am barcio ar y dydd Sul.
Dywedodd y Cynghorydd Chris Dolphin, Aelod Cabinet yr Amgylchedd, Adfywio, Cefn Gwlad a Thwristiaeth: “Mae Gwyl Bwyd a Diod yr Wyddgrug yn ddigwyddiad hynod boblogaidd sy'n denu miloedd o ymwelwyr bob blwyddyn.
“Rydym yn falch o gefnogi’r wyl drwy ddarparu gwasanaeth ‘Parcio a Theithio’ am ddim, gan gynnig dull di-ffwdan o deithio i’r digwyddiad ac yn ôl, a helpu i leihau’r pwysau ar ganol y dref ar benwythnos sy’n siwr o fod yn un prysur iawn.
“Rydym yn annog pawb sy'n mynychu'r penwythnos hwn i fanteisio ar y gwasanaeth rhad ac am ddim hwn ac i fwynhau popeth sydd gan yr wyl i'w gynnig.”