Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Gofyn i’r Cabinet Gefnogi Prosiectau Gofal Cymdeithasol Trawsnewidiol

Published: 12/12/2025

Mae Cyngor Sir y Fflint yn symud ymlaen gyda thair menter gofal cymdeithasol newydd gyda’r nod o drawsnewid y ffordd mae plant, pobl ifanc ac oedolion yn cael eu cefnogi.

Gofynnir i Gabinet y Cyngor gefnogi pob un o’r prosiectau yr wythnos nesaf ar ôl iddynt gael eu cefnogi gan y Pwyllgor Trosolwg a Chraffu Iechyd a Gofal Cymdeithasol.

Mae’r adroddiad cyntaf, ‘Gofal Cywir, yn y Man Cywir’, yn nodi cyflwyno ‘Model Dilyniant’ newydd ar gyfer oedolion gydag anableddau dysgu sy’n byw mewn tai â chymorth.

Mae’r dull arloesol yn adeiladu ar gryfderau a dyheadau unigolion gan eu grymuso i fyw mor annibynnol â phosibl. Mae’n sicrhau bod y gofal sy’n cael ei ddarparu yn gymesur ac wedi’i bersonoli, gan ystyried cryfderau ac anghenion cefnogi’r aelwyd ar y cyfan.

Cafodd gwaith cynnar y Cyngor ar y Model Dilyniant ei gydnabod gydag Acolâd Gofal Cymdeithasol Cymru eleni.

Yn y cyfamser, mae’r Cyngor hefyd yn symud ymlaen gyda dull newydd i helpu lleihau nifer y plant sy'n derbyn gofal mewn cartrefi preswyl costus tu allan i’r sir.

Mae’r prosiect, mewn partneriaeth gyda’r Rhaglen Ailgysylltu, yn cefnogi plant a phobl ifanc i drosglwyddo o leoliadau preswyl i leoliadau teuluol neu rhannol-annibynnol, os bydd hynny er eu lles gorau.

Bydd adroddiad ar wahân ar ehangu’r gwasanaeth maethu mewnol yn Sir y Fflint hefyd yn cael ei ystyried. Mae’n nodi tri maes i ganolbwyntio arnynt, gan gynnwys recriwtio gofalwyr maeth arbenigol wedi’i dargedu er mwyn cefnogi’r Rhaglen Ailgysylltu.

Mae hefyd yn nodi’r cynlluniau i ehangu’r Gwasanaeth Gorchymyn Gwarcheidiaeth Arbennig a’r Gwasanaeth Mockingbird - y cyntaf o’i fath yng Nghymru - lle bydd aelwydydd maethu dynodedig yn gweithredu fel ‘canolfannau’ i gefnogi gofalwyr maeth eraill.

Dywedodd y Cynghorydd Christine Jones, Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles:  “Mae’r mentrau hyn yn adlewyrchu ein hymrwymiad i gefnogi pobl mewn ffyrdd sy’n dosturiol, yn grymuso, ac yn y pendraw, yn eu helpu nhw i gyflawni canlyniadau gwell.

“Er y byddent yn ein helpu ni i reoli’r pwysau cynyddol ar y gyllideb, yr effaith bwysicaf yw’r gwahaniaeth y bydd y rhaglenni hyn yn eu cael ar fywydau pobl.”

Bydd y Cabinet yn cwrdd ddydd Mawrth nesaf, 16 Rhagfyr, i gymeradwyo’r cynlluniau.