Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Safleoedd masnachol yng nghanol trefi Sir y Fflint i elwa o fuddsoddiad adfywio dros £1 filiwn

Published: 16/10/2025

Mae’r cyfnod ymgeisio ar gyfer Cynllun Grant Gwella Eiddo Canol Trefi eleni bellach wedi dod i ben, ar ôl i nifer fawr o berchnogion eiddo ddangos diddordeb. Mae’r cynllun sy’n cael ei reoli gan Wasanaeth Menter ac Adfywio Cyngor Sir y Fflint yn cael ei ddarparu o ganlyniad i gyllid gwerth £333,000 a sicrhawyd trwy fenter Trawsnewid Trefi Llywodraeth Cymru a Chronfa Ffyniant Gyffredin Llywodraeth y DU  Bydd perchnogion a thenantiaid y safleoedd masnachol yn buddsoddi dros £670,000 eu hunain tuag at wella eu heiddo, a fydd yn helpu i roi bywyd newydd i ganol ein trefi.

Erbyn mis Mawrth 2026, bydd y cyllid a ddyfarnwyd yn:

  • Darparu ystod o welliannau i eiddo gan gynnwys blaen siopau newydd a gwell, ffenestri, drysau, toeau, a hefyd gwaith ailwampio mewnol mewn 12 eiddo.
  • Cynorthwyo 6 eiddo gwag i ddechrau cael eu defnyddio eto gyda busnesau’n masnachu ohonynt unwaith y bydd y gwaith wedi’i gwblhau.
  • Helpu i greu 8 o swyddi newydd.

Nod y cyllid yw gwella hyfywedd y trefi, creu mannau sy’n denu busnesau newydd ac annog twf a buddsoddiad yn ogystal â rhoi mwy o resymau i breswylwyr ymweld. 

Er bod y cyfnod ymgeisio am gyllid ar gyfer 2025-2026 bellach wedi dod i ben, disgwylir y bydd y cynllun yn rhedeg unwaith eto ar gyfer 2026-2027, yn amodol ar sicrhau cyllid pellach. Os hoffech gael y wybodaeth ddiweddaraf am gyfleoedd yn y dyfodol, cysylltwch â regeneration@siryfflint.gov.uk.