Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint
Casglu Treth y Cyngor ac Ardrethi Busnes ar gyfer 2024/25
Published: 09/07/2025
Mae ffigurau newydd a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru yn dangos bod aelwydydd a busnesau yn Sir y Fflint yn parhau i flaenoriaethu taliadau Treth y Cyngor ac Ardrethi Busnes er mwyn ariannu gwasanaethau cyhoeddus hanfodol.
Yn 2024/25, casglodd y Cyngor 97.2 y cant o Dreth y Cyngor, ac rydym yn parhau i fod ymhlith y Cynghorau sy’n perfformio orau yng Nghymru o ran casglu Treth y Cyngor yn ystod y flwyddyn. Sir y Fflint sydd â’r nifer isaf ond un o symiau sydd heb eu talu fesul annedd drethadwy o ran ôl-ddyledion mwy hirdymor.
Mae'r Cyngor hefyd wedi casglu 98.5 y cant o Ardrethi Busnes ‘yn ystod y flwyddyn’, ac mae hyn hefyd yn gosod y Cyngor fel un o gasglwyr gorau o Ardrethi Busnes yng Nghymru.
Yn ogystal â sicrhau’r nifer uchaf o gasgliadau Treth y Cyngor ac Ardrethi Busnes, mae’r Cyngor yn parhau i ddarparu cynlluniau taliadau hyblyg, gan ei gwneud yn haws i drigolion a busnesau dalu eu biliau neu ymgeisio am ostyngiadau. Gall aelwydydd yn Sir y Fflint dalu trwy ddebyd uniongyrchol wythnosol – un o ychydig o Gynghorau yng Nghymru sy’n cynnig cynllun talu mor hyblyg.
Wrth wneud sylw ar y cyhoeddiad, dywedodd y Cynghorydd Paul Johnson, Aelod Cabinet Cyllid a Gwerth Cymdeithasol, “Mae’r canlyniadau cadarnhaol hyn yn adlewyrchu ymdrechion y Cyngor, trigolion a busnesau. Rwy’n ddiolchgar iawn i drigolion a busnesau Sir y Fflint sy’n cydnabod pwysigrwydd talu trethi lleol ar amser, sy’n cefnogi i ddarparu gwasanaethau allweddol ledled ein sir”.