Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyngor Sir y Fflint yn enwi’r Cabinet newydd

Published: 17/05/2023

Ar ddydd Iau, 4 Mai, ail-etholwyd y Cynghorydd Ian Roberts yn Arweinydd y Cyngor yn y Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol.  Enwodd ei Gabinet fel a ganlyn:

Y Cynghorydd Christine Jones - Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Gwasanaethau Cymdeithasol a Lles 

Y Cynghorydd Dave Hughes - Dirprwy Arweinydd ac Aelod Cabinet Gwasanaethau Stryd a’r Strategaeth Drafnidiaeth Ranbarthol

Y Cynghorydd Chris Bithell, Aelod Cabinet Cynllunio, Iechyd y Cyhoedd a Gwarchod y Cyhoedd

Y Cynghorydd Billy Mullin - Aelod Cabinet Llywodraethu a Gwasanaethau Corfforaethol gan gynnwys Iechyd a Diogelwch ac Adnoddau Dynol

Y Cynghorydd Paul Johnson - Aelod Cabinet Cyllid, Cynhwysiant a Chymunedau Cryf gan gynnwys Gwerth Cymdeithasol a Chaffael

Y Cynghorydd Sean Bibby - Aelod Cabinet Tai ac Adfywio

Y Cynghorydd David Healey - Aelod Cabinet Newid Hinsawdd a’r Economi

Y Cynghorydd Mared Eastwood - Aelod Cabinet Addysg, y Gymraeg, Diwylliant a Hamdden

Wrth siarad ar ôl y cyfarfod, dywedodd y Cynghorydd Eastwood:

“Mae’n fraint gennyf gael y swydd hon ar y Cabinet ac edrychaf ymlaen at ddatblygu fy swyddogaeth o fewn y portffolio hwn.”

Ychwanegodd Jane Dodds MS, Arweinydd y Democratiaid Rhyddfrydol: 

“Rwy’n falch o weld fod Mared wedi ei phenodi’n Ddeilydd Portffolio Addysg ar Gyngor Sir y Fflint. Mae addysg bob amser wedi bod yn un o brif flaenoriaethau Democratiaid Rhyddfrydol Cymru ac rwy’n gwybod y bydd yn gwneud gwaith gwych a chyflawni ar gyfer pobl ifanc ledled Sir y Fflint.