Alert Section

Newyddion Diweddaraf Cyngor Sir Y Fflint


Cyhoeddi Cadeirydd ac Is-gadeirydd Newydd

Published: 12/05/2023

Chair Cllr Healey and Vice Chair Cllr Hutchinson.jpgDdydd Iau 4 Mai penodwyd y Cynghorydd Gladys Healey yn Gadeirydd Cyngor Sir y Fflint. 

Mae’r Cynghorydd Healey yn cynrychioli adran etholiadol yr Hôb ac wedi bod yn aelod o’r Cyngor ers mis Mai 2017. Ei gwr ers deugain mlynedd, y Cynghorydd David Healey sy’n cynrychioli adran etholiadol Caergwrle, fydd ei chydwedd.

Meddai’r Cynghorydd Healey:

“Rwyf wrth fy modd fy mod wedi cael fy ethol yn Gadeirydd Cyngor Sir y Fflint ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. Mae’n anrhydedd mawr cynrychioli sir mor anhygoel. Byddaf yn cyflawni fy nyletswyddau hyd eithaf fy ngallu ac yn cynrychioli Sir y Fflint gyda balchder.” 

Mae’r Cynghorydd Healey wedi bod yn byw yn yr Hôb ers 37 o flynyddoedd ac mae hi’n Llywodraethwr yn Ysgol Uwchradd Castell Alun ac Ysgol Estyn. 

Mae’r Cynghorydd Dennis Hutchinson wedi’i benodi yn Is-gadeirydd Cyngor Sir y Fflint.

Mae’r Cynghorydd Hutchinson yn cynrychioli adran etholiadol Bwcle Pentrobin ac yn un o’r pedwar cynghorydd gwreiddiol a etholwyd i’r Cyngor yn 1995. Ei wraig ers 55 o flynyddoedd fydd ei gydwedd. 

Mae’r Cynghorydd Hutchinson wedi bod yn byw yn Sir y Fflint ar hyd ei oes, yn Sychdyn a Bwcle, ac mae o’n Llywodraethwr Ysgol Drury ac Ysgol Uwchradd Elfed. 

Meddai’r Cynghorydd Hutchinson:

“Mae’n fraint gennyf gael fy ethol yn Is-Gadeirydd Cyngor Sir y Fflint. Hoffaf longyfarch y Cynghorydd Healey am gael ei hethol yn Gadeirydd ac rwyf yn addo ei chefnogi yn ystod y flwyddyn sydd i ddod.