Alert Section

Strategaeth Drawsnewid Strategol ddrafft


Mae gan y Cyngor hanes o wneud arbedion a gwneud pethau’n wahanol i sicrhau cynaliadwyedd ariannol.  Fodd bynnag, mae pwysau cyllidebol yn parhau ar draws y sector cyhoeddus yn ogystal â disgwyliadau mewn perthynas â darpariaeth gwasanaeth, ac mae nifer y bobl sy’n gymwys i dderbyn cefnogaeth statudol yn cynyddu.  

Mae’n rhaid i’r Cyngor barhau i arloesi o ran darparu ei wasanaethau i fodloni’r heriau sylweddol y mae’n eu hwynebu.  Mae’r Cyngor felly’n ymestyn ei gapasiti ar gyfer trawsnewid ac yn creu rhaglen drawsnewid strategol.  Bydd y rhaglen yn canolbwyntio ar ddarparu newid a chyflymu darpariaeth, gan arddangos gwerth am arian a sicrhau arbedion effeithlonrwydd cynaliadwy. 

Drafftiwyd Strategaeth Drawsnewid Strategol 2026-2029 i amlinellu’r cyfeiriad strategol a’r trefniadau llywodraethu ar gyfer y rhaglen drawsnewid strategol.  Yn ei hanfod, mae’n cynnwys gwybodaeth ynghylch beth mae’r Cyngor yn bwriadu ei wneud a sut y bydd yn gwneud hynny.  

Darperir y Strategaeth Drawsnewid Strategol a’r rhaglen drawsnewid strategol drwy brosiectau a rhaglenni gwaith trawsnewid.  Lle bo’r prosiectau a’r rhaglenni’n arwain at newidiadau i wasanaethau neu bolisïau, bydd y Cyngor yn cwblhau asesiadau effaith unigol ac yn ymgynghori â budd-ddeiliaid ynghylch manylion unrhyw newid arfaethedig.  

Ar y pwynt hwn, mae’r Cyngor yn awyddus i ymgynghori ac ymgysylltu â phreswylwyr, cwsmeriaid a defnyddwyr gwasanaeth ar ei gynlluniau strategol ar gyfer trawsnewid, fel y nodir yn y Strategaeth Drawsnewid Strategol ddrafft.  

Gallwch rannu eich barn â ni a dweud eich dweud ar y Strategaeth Drawsnewid Strategol ddrafft drwy gwblhau’r arolwg ar-lein. 

https://www.smartsurvey.co.uk/s/Trawsnewid-Transformation/
  • Dyddiadau pwysig
  • Agorwyd: 07/09/2026

    Dyddiad cau: 04/10/2026

  • Manylion cyswllt
  • Trawsnewid

    E-bost: trawsnewid@siryfflint.gov.uk

    Rhif ffôn: 01792 002129