Adolygiad o Farchnad Treffynnon 2025
Hoffai Cyngor Sir y Fflint eich barn am ddyfodol Marchnad Treffynnon, sy’n cael ei chynnal yng Ngerddi'r Tŵr bob dydd Iau.
Byddwn yn ystyried canlyniadau'r ymgynghoriad wrth wneud ein penderfyniad terfynol ynghylch a ddylid cau Marchnad Treffynnon ai peidio.
- Gall masnachwyr marchnad Treffynnon, trigolion, perchnogion busnes ac ymwelwyr gymryd rhan yn yr ymgynghoriad.
- Bydd yr ymgynghoriad yn cael ei gynnal ar-lein. Os ydych chi'n defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol ac yn byw, yn gweithio neu'n ymweld ag ardal Treffynnon, byddwch yn derbyn dolenni i'r arolwg trwy eich sianeli cyfryngau cymdeithasol.
- Mae botwm hefyd ar waelod y dudalen hon a fydd yn mynd â chi i'r arolwg.
- Os nad oes gennych fynediad i'r rhyngrwyd na chyfryngau cymdeithasol, gallwch ymweld â'r Ganolfan Connects yn Stryd Fawr Treffynnon lle gallwch dderbyn cymorth i gwblhau'r arolwg ar-lein. Mae Connects ar agor o ddydd Llun i ddydd Gwener 9.30am i 4.30pm.
- Bydd yr arolwg yn agor 01/07/2025 ac yn cau ar 22/07/2025.
- Gwneir y penderfyniad terfynol 30/09/2025. Bydd y canlyniadau'n cael eu cyhoeddi ar y dudalen hon a bydd datganiad i'r wasg sy'n cynnwys y penderfyniad terfynol hefyd yn cael ei gyhoeddi.
Ewch i 'Give my view' dolen allanol