Strategaeth Leol Sir y Fflint ar gyfer Rheoli Risg Llifogydd 2025 (LFRMS 2025)
Ym mis Ebrill, cymeradwyodd Gyngor Sir y Fflint ymgynghoriad cyhoeddus ar gyfer Strategaeth Leol Sir y Fflint ar gyfer Rheoli Risg Llifogydd. Bydd y strategaeth yn disodli’r Strategaeth Leol Rheoli Risg Llifogydd presennol a gyhoeddwyd yn 2013.
Mae Cyngor Sir y Fflint yn gwahodd sylwadau gan fudd-ddeiliaid a fydd yn cael eu heffeithio gan y strategaeth, gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i breswylwyr, landlordiaid, asiantaethau rheoli risg lleol grwpiau gweithredu risg llifogydd lleol.
Bydd y broses ymgynghori yn para am o leiaf 5 wythnos. Bydd yr holl ymatebion yn cael eu hystyried yn drylwyr gan Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol Sir y Fflint. Unwaith mae’r broses ymgynghori wedi dod i ben, bydd yr ymatebion yn cael eu casglu a’u hadolygu. Rhennir y canfyddiadau perthnasol.
Gall pobl nad ydynt yn gallu llenwi’r arolwg ar-lein fynd i unrhyw un o’r Canolfannau Cyswllt lle bydd modd cael cefnogaeth. Mae Canolfannau Cyswllt ar agor rhwng 9am a 4.30pm ar y diwrnodau canlynol:
- Bwcle: Dydd Mawrth, dydd Mercher a dydd Iau
- Cei Connah, Y Fflint a Threffynnon: Dydd Llun i ddydd Gwener
- Yr Wyddgrug: Dydd Llun, dydd Mercher a dydd Gwener
Cefndir
Mae Strategaeth Leol Sir y Fflint ar gyfer Rheoli Risg Llifogydd yn nodi sut y bydd Cyngor Sir y Fflint, yn ei rôl fel Awdurdod Arweiniol llifogydd Lleol ar gyfer Sir y Fflint, ac awdurdodau partner yn cydweithio i reoli risg llifogydd.
Rydym yn ymgynghori ar ail strategaeth Sir y Fflint a fydd yn cwmpasu cyfnod o chwe blynedd, ond hefyd yn edrych ar y canlyniadau hirdymor sydd angen eu hystyried, yn benodol mewn perthynas â newid hinsawdd.
Mae’r Cyngor wedi llunio’r strategaeth dan ofynion Deddf Rheoli Llifogydd a Dŵr 2010, ac mae’n adeiladu ar ein gwaith presennol o reoli ffynonellau lleol o risg llifogydd.
Am beth mae’r Strategaeth yn sôn?
Mae’r strategaeth yn darparu trosolwg o reoli risg llifogydd ar draws y sir, a rolau a chyfrifoldebau Awdurdodau Rheoli Risg, a budd-ddeiliaid allweddol eraill. Mae’r strategaeth yn darparu gwybodaeth i breswylwyr, busnesau a datblygwyr, i’w helpu i ddeall a rheoli risg llifogydd.
Yn tanategu’r strategaeth mae cyfres o amcanion a mesurau a fydd yn cael eu dilyn i reoli, a lle bo’n bosib, lleihau risg llifogydd yn Sir y Fflint.
Beth nad yw’r Strategaeth yn ei chynnwys?
Nid yw’r strategaeth yn dyblygu neu ddisodli’r Strategaeth Rheoli Risg Llifogydd fel y paratowyd gan Lywodraeth Cymru, ac ar gael i’w gweld ar www.llyw.cymru.
Nid yw’r strategaeth yn trafod sut y dylai awdurdodau ymateb yn ystod argyfwng, neu ymateb i ddigwyddiad sy’n ymwneud â llifogydd. Mae hyn dal yn gyfrifoldeb i Fforwm Lleol Cymru Gydnerth, a dulliau gweithio amlasiantaeth dan y Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl.
Nid yw’r strategaeth yn dyrannu tir ar gyfer datblygiadau newydd neu’n datblygu polisïau Cynllunio Lleol, mae sail y dystiolaeth ar gyfer penderfyniadau cynllunio mewn perthynas â risgiau llifogydd yn gorwedd gyda’r Asesiad Risg Llifogydd Strategol o fewn yr ardal.
Strategaeth Rheoli Perygl Llifogydd Lleol 2025 - Drafft Ymgynghoriad Cyhoeddus
Llenwch yr arolwg ‘Dweud Eich Dweud’ ar-lein isod:
Holiadur 'Dweud eich Dweud' (external link)