Alert Section

Strategaeth Ddrafft Tai Sir y Fflint 2025-2030 sef "Y math iawn o gartrefi, yn y lleoliad iawn, i'r bobl iawn"


Mae’r ymgynghoriad hwn yn gyfle i breswylwyr, budd-ddeiliaid a phartïon eraill â diddordeb roi adborth ar Strategaeth ddrafft Tai Sir y Fflint 2025-2030 sef "Y math iawn o gartrefi, yn y lleoliad iawn, i’r bobl iawn", a bydd ar agor i gasglu barn am 6 wythnos o leiaf.

Mae’r strategaeth ddiweddaraf yn disodli Strategaeth Tai a Chynllun Gweithredu Sir y Fflint 2019-2024. 

Mae Cyngor Sir y Fflint yn gwahodd sylwadau gan breswylwyr, budd-ddeiliaid a phartïon eraill a diddordeb, sy’n cynnwys, ond nid yn gyfyngedig i Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig, meysydd gwasanaeth o fewn y Cyngor a Chynghorau Plwyf, tenantiaid, asiantaethau gosod a rheoli, datblygwyr, busnesau a chyflogwyr, darparwyr gofal iechyd, asiantaethau’r trydydd sector, elusennau, a sefydliadau eraill. 

Bydd y Tîm Strategaeth Tai yn ystyried pob ymateb yn ofalus. 

Bydd eich adborth a’ch barn yn helpu i nodi’r Strategaeth, ac yn galluogi’r Strategaeth derfynol i chael ei chymeradwyo a’i chyhoeddi gan y Cyngor.

Bydd cyfnod yr ymgynghoriad yn cychwyn ar ddydd Mawrth 2 Medi 2025 ac yn dod i ben ddydd Mercher 1 Hydref 2025.

Gallwch gyflwyno eich adborth ar-lein.

Arolwg ar-lein

Gall pobl nad ydynt yn gallu llenwi’r arolwg ar-lein fynd i unrhyw un o’r swyddfeydd Cyswllt lle bydd modd cael cefnogaeth.

Rhaid derbyn pob ymateb erbyn 11:59pm, dydd Mercher 1 Hydref 2025.

Unwaith y bydd y broses ymgynghori wedi dod i ben, bydd yr holl ymatebion yn cael eu hystyried yn ofalus a’i hadolygu, cyn y bydd penderfyniad yn cael ei wneud ynghylch mabwysiadu’r Strategaeth. Rhennir y canfyddiadau perthnasol.

Cefndir

Er bod yr amgylchedd a weithredwn ynddo wedi newid, mae uchelgeisiau ac amcanion Strategaeth Tai a Chynllun Gweithredu blaenorol Sir y Fflint 2-19-2024 yn parhau i fod yn berthnasol. 

Mae’r Strategaeth Tai ddrafft 2025-2030 hon "Y math iawn o gartrefi, yn y lleoliad iawn, i’r bobl iawn" yn nodi sut y bydd Cyngor Sir y Fflint a Phartneriaid yn cydweithio i gyflawni ein huchelgais o gael preswylwyr yn byw yn y math iawn o gartrefi, yn y lleoliad iawn, ac yn esbonio sut y byddwn yn gwneud hyn, ac yn amlinellu’r blaenoriaethau allweddol ar gyfer y pum mlynedd nesaf. 

Am beth mae’r Strategaeth yn sôn?

Mae’r Strategaeth yn ceisio cydbwyso blaenoriaethau unswydd a blaenoriaethau hirdymor, ac yn darparu trosolwg o’n gweledigaeth hirdymor i ddarparu’r cartrefi y mae pobl eu heisiau a’u hangen.

Mae’r Strategaeth yn darparu gwybodaeth ar yr heriau presennol sy’n wynebu Sir y Fflint, ac yn manylu ar gamau gweithredu ar gyfer mynd i’r afael â’r heriau hyn, a chyflawni’r blaenoriaethau a nodwyd.

Un o’r heriau mwyaf sylweddol sy’n wynebu Cyngor Sir y Fflint (a’r DU) yw’r cynnydd mewn digartrefedd a’r cynnydd yn y nifer o aelwydydd mewn llety dros dro / mewn argyfwng, ynghyd â’r posibilrwydd o fwy o bobl yn cyflwyno eu hunain oherwydd cynnydd i gyfraddau llog morgeisi pan mae cyfraddau sefydlog yn dod i ben. 

Mae’r Strategaeth yn amlinellu blaenoriaethau tai strategol, ac yn manylu ar weithgarwch a gynlluniwyd er mwyn cyflawni’r blaenoriaethau hyn. Caiff adroddiad monitro blynyddol ei gyhoeddi er mwyn nodi’r cynnydd yn erbyn gwahanol amcanion sydd wedi’u cynnwys o fewn y strategaeth.

Nid yw’r Strategaeth Tai yn bodoli ar ei phen ei hun; felly, mae’n cyfeirio at, ac yn cefnogi nifer o strategaethau, nodau cenedlaethol a lleol yn Sir y Fflint, yn ogystal â phwrpas craidd y Cyngor.
Gweler yr adendwm ar gyfer manylion dogfennau cefndirol hygyrch. 

  • Dyddiadau pwysig
  • Agorwyd: 02/09/2025

    Dyddiad cau: 01/10/2025

  • Manylion cyswllt
  • Tai a Chymunedau, Strategaetg Tai

    E-bost: gwasanaethaucwsmer@siryfflint.gov.uk

    Rhif ffôn: 01792 002129