Alert Section

Datblygu Polisi Dewisiadau Cynaliadwy ar gyfer Gwasanaethau Cymdeithasol


Pam bod angen Polisi Dewisiadau?

Mae Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn rhoi pwyslais cryf ar helpu pobl i gael llais, gwneud dewisiadau a chael rheolaeth dros y cymorth maent yn ei dderbyn. Mae Gwasanaethau Cymdeithasol yn parhau i ymrwymo i’r egwyddorion hyn ac yn gweithio gyda phobl i ddeall beth sy’n bwysig iddynt ac i gyflawni eu canlyniadau personol.

Ar yr un pryd, rhaid i’r Gwasanaethau Cymdeithasol gydbwyso dymuniadau unigolion gyda’r cyfrifoldeb i ddefnyddio adnoddau cyhoeddus yn deg a chynaliadwy er lles y gymuned ehangach. Mae’r galw am gymorth yn parhau i dyfu, tra bod gwasanaethau yn wynebu pwysau ariannol cynyddol.

Beth fydd y Polisi yn ei Wneud?

Nid bwriad y Polisi Dewisiadau arfaethedig yw cyfyngu ar ddewisiadau pobl na disodli barn broffesiynol. Yn hytrach, bydd yn darparu fframwaith clir er mwyn helpu i sicrhau bod penderfyniadau’n cael eu gwneud yn deg, cyson a thryloyw.

Bydd y polisi’n helpu:

  • Sicrhau bod pobl mewn sefyllfaoedd tebyg yn cael eu trin yn gyson.
  • Cefnogi proses wneud penderfyniadau teg a chymesur.
  • Egluro sut gwneir penderfyniadau a’r egwyddorion tu ôl iddynt.
  • Cefnogi ymarferwyr i wneud penderfyniadau gyda hyder.
  • Cydbwyso dewisiadau unigolion gydag anghenion y gymuned ehangach.

Llunio’r Polisi Gyda’n Gilydd

Mae’r polisi’n cael ei ddatblygu gyda mewnbwn gan y rhai sy’n defnyddio, darparu a chefnogi Gwasanaethau Cymdeithasol. Bydd profiad staff ac arbenigedd proffesiynol yn chwarae rhan bwysig i sicrhau bod y polisi’n ymarferol, yn deg ac yn effeithiol.

Ein Nod

Bydd ein cynnig gwasanaeth bob amser yn diwallu angen a asesir. Y dyhead yw creu polisi sy’n parchu llais a dewis pobl, yn cefnogi staff, yn hyrwyddo tegwch a chysondeb, ac yn helpu i sicrhau y gall Gwasanaethau Cymdeithasol barhau i ddiwallu anghenion preswylwyr mewn modd cynaliadwy a theg.

Sut allwch chi ddweud eich barn yn natblygiad y polisi hwnRydym wedi creu nifer o ddogfennau defnyddiol i’ch cefnogi chi i ddeall y cyd-destun o amgylch y polisi. Gellir dod o hyd i’r rhan yn y dolenni ar y dde.

Gallwch roi eich barn a chael dweud eich dweud ar y Polisi Dewisiadau sy’n Canolbwyntio ar yr Unigolyn, trwy gwblhau’r arolwg yn y ddolen isod.

 

Dweud eich dweud!

 

Os nad allwch roi adborth i ni ar-lein, cysylltwch â ni i drafod beth fyddai’n gweithio i chi.

  • Dyddiadau pwysig
  • Agorwyd: 26/10/2026

    Dyddiad cau: 03/01/2027

  • Manylion cyswllt
  • Gofal Cymdeithasol

    E-bost: YmgynghoriadGC@siryfflint.gov.uk

    Rhif ffôn: 01267 224923