Alert Section

Strategaeth Leol Sir y Fflint ar gyfer Rheoli Risg Llifogydd 2025 (LFRMS 2025)


Canlyniadau ar gael

Mae'r ymatebion wedi'u dadansoddi a'u cyhoeddi isod

Cefndir

Rhaid i Gyngor Sir y Fflint, yn ei swyddogaeth fel yr Awdurdod Llifogydd Lleol Arweiniol ar gyfer Sir y Fflint, ddatblygu, cynnal, gweithredu a monitro strategaeth ar gyfer rheoli risg llifogydd lleol yn ei ardal.

Ym mis Ebrill, cymeradwyodd Gyngor Sir y Fflint ymgynghoriad cyhoeddus ar gyfer Strategaeth Leol Sir y Fflint ar gyfer Rheoli Risg Llifogydd. Bydd y strategaeth yn disodli’r Strategaeth Leol Rheoli Risg Llifogydd presennol a gyhoeddwyd yn 2013.

Cynhaliwyd yr ymgynghoriad cyhoeddus rhwng 25/06/2025 a 30/07/2025 gyda’r dogfennau perthnasol ar gael ar-lein a’r holl Ganolfannau Cyswllt.

Am beth mae’r Strategaeth yn sôn?

Mae’r strategaeth yn darparu trosolwg o reoli risg llifogydd ar draws y sir, a rolau a chyfrifoldebau Awdurdodau Rheoli Risg, a budd-ddeiliaid allweddol eraill. Mae’r strategaeth yn darparu gwybodaeth i breswylwyr, busnesau a datblygwyr, i’w helpu i ddeall a rheoli risg llifogydd.

Yn tanategu’r strategaeth mae cyfres o amcanion a mesurau a fydd yn cael eu dilyn i reoli, a lle bo’n bosib, lleihau risg llifogydd yn Sir y Fflint.

Beth nad yw’r Strategaeth yn ei chynnwys? 

Nid yw’r strategaeth yn dyblygu neu ddisodli’r Strategaeth Rheoli Risg Llifogydd fel y paratowyd gan Lywodraeth Cymru, ac ar gael i’w gweld ar www.llyw.cymru. 

Nid yw’r strategaeth yn trafod sut y dylai awdurdodau ymateb yn ystod argyfwng, neu ymateb i ddigwyddiad sy’n ymwneud â llifogydd. Mae hyn dal yn gyfrifoldeb i Fforwm Lleol Cymru Gydnerth, a dulliau gweithio amlasiantaeth dan y Ddeddf Argyfyngau Sifil Posibl.

Nid yw’r strategaeth yn dyrannu tir ar gyfer datblygiadau newydd neu’n datblygu polisïau Cynllunio Lleol, mae sail y dystiolaeth ar gyfer penderfyniadau cynllunio mewn perthynas â risgiau llifogydd yn gorwedd gyda’r Asesiad Risg Llifogydd Strategol o fewn yr ardal.

Canlyniadau

Yn dilyn diwedd yr ymgynghoriad cyhoeddus, mae'r ymatebion a dderbyniwyd wedi cael eu hadolygu a'u hymgorffori yn y strategaeth yn unol â hynny.

Mae canlyniadau'r ymgynghoriad cyhoeddus a'r newidiadau a wnaed i'r LFRMS i'w gweld yma: Atodiad D - Adolygiad o'r Ymgynghoriad

Mae'r LFRMS terfynol i'w weld ar ein tudalen we bwrpasol newydd: Strategaeth Rheoli Risg Llifogydd Lleol Sir y Fflint 

  • Dyddiadau pwysig
  • Agorwyd: 25/06/2025

    Caewyd: 30/07/2025

  • Manylion cyswllt
  • Cynllunio, yr Amgylchedd, a'r Economi

    E-bost: RheoliPeryglLlifogydd@siryfflint.gov.uk

    Rhif ffôn: 01352 703210