Alert Section

Symudedd a Thrafnidiaeth


Climate - Mobility and Transport

Mae allyriadau o'n fflyd a weithredir gan y Cyngor yn parhau i fod yn ffynhonnell gyson o allyriadau carbon. Rydym yn gwybod bod technolegau sy'n ymwneud â thrydan a cherbydau tanwydd hydrogen yn gwella ac mae angen i ni sicrhau nad ydym ar ei hôl hi yn y maes hwn.

Dyma rai o'r gwaith a'r prosiectau parhaus rydyn ni wedi'u cwblhau:

  • Mae fflyd y Cyngor yn bodloni safon Ewro 6 ac felly mae ganddyn nhw yr allyriadau isaf posib ar gyfer cerbydau disel.
  • Cyflwyno llwybrau mwy diogel yn y cynlluniau cymunedol o amgylch ysgolion, annog plant gyda'u teuluoedd i gerdded a beicio i'r ysgol, ceisio mynd i'r afael â llygredd aer o amgylch ysgolion a sicrhau bod pobl yn egnïol ac yn iach.
  • Datblygu opsiynau cludiant yn y gymuned pan fydd gwasanaethau bysiau masnachol wedi dod i stop.
  • Datblygu a darparu llwybrau teithio llesol ledled y Sir.
  • Gosod pwyntiau gwefru sy'n hygyrch i'r cyhoedd ledled y wlad.
  • Adolygu ein contract fflyd cyfredol i gyflawni ein trosglwyddiad ar gyfer cerbydau allyriadau isel iawn (ULEV).
  • Wedi ein dewis i dreialu dau gerbyd ailgylchu trydan o ddechrau 2022.
  • Dau fws trydan wedi'u cyflwyno i'r fflyd cludiant.
  • Mae Polisi Gweithio Hybrid wedi cael ei gyhoeddi i annog dulliau gweithio’n hyblyg a’r defnydd o gyfarfodydd ar-lein. Mae 17 o bwyntiau gwefru cerbydau trydan wedi cael eu gosod ar draws 8 o safleoedd parcio ceir cyhoeddus ar draws y sir. Gyda mwy o astudiaethau dichonoldeb yn cael eu cyflawni i ganfod mwy o safleoedd posibl.
  • Mae 2 o gerbydau profi wedi cael eu dyfarnu gan Lywodraeth Cymru.
  • Cafodd ymgynghoriad cyhoeddus Rhwydwaith Teithio Llesol ei gwblhau, ac mae’r cam nesaf o welliannau yn digwydd er mwyn gwella’r rhwydwaith cerdded a beicio ar draws y sir.

Camau gweithredu yn y dyfodol

Byddwn yn:

  • Cwblhau’r adolygiad o’r contract fflyd presennol i gyflawni’r newid i gerbydau allyriadau isel iawn (ULEV).
  • Adolygu polisi fflyd gan ystyried gwefru cerbydau.
  • Cyflwyno dau fws trydan i wasanaethu trefniant teithio lleol ym Mwcle a’r cyfleuster Parcio a Theithio Parc Diwydiannol Glannau Dyfrdwy ar Barth 2. 
  • Newid cerbydau’r fflyd i danwyddau trydan ac amgen (hydrogen, ac ati).
  • Hwyluso fforwm rhannu ceir i weithwyr – unwaith y bydd mesurau ôl-COVID-19 yn cael eu hadolygu.
  • Mynd ati i hyrwyddo’r cynllun beicio i’r gwaith presennol i gynyddu cyfranogiad ac adolygu cyfleusterau storio beiciau mewn prif fannau gwaith.
  • Hyrwyddo a lansio cynllun aberthu cyflog wedi ei reoli ar gyfer cerbydau allyriadau isel ac isel iawn.