Digwyddiadau
Wythnos Hinsawdd Cymru 2025
Eleni, rhwng 3 a 7 Tachwedd, mae Cyngor Sir y Fflint yn ymgysylltu ag ysgolion i arwain dysgwyr ar siwrnai i ddeall beth mae Newid Hinsawdd yn ei olygu a dysgu am yr effeithiau a’r cyfleoedd mewn bywyd bob dydd.
Rhennir yr wythnos yn ôl pum thema yn ymwneud â Newid Hinsawdd, a bydd gan bob thema weithgareddau i’w cwblhau yn y dosbarth neu gartref er mwyn arwain dysgwyr ar siwrnai hinsawdd i wella eu dealltwriaeth a’u hannog i weithredu.
Cludiant yw ffynhonnell allyriadau nwyon tŷ gwydr mwyaf y DU sy’n cael effaith ar ansawdd yr aer. Mewn cydweithrediad â Wheel Cycle Trust Cymru, bydd y gweithgareddau hyn yn helpu dysgwyr i drafod y traffig y tu allan i’w hysgol, gweithredu i fynd i’r afael â phroblemau, a chanfod tystiolaeth o lygredd aer.
Yn ogystal â hynny, gall dysgwyr hefyd ddysgu am y llwybrau Hawliau Tramwy yn eu cymunedau, i’w helpu i archwilio eu hardaloedd a chanfod ffyrdd o deithio i’r ysgol.
Cludiant - Cynllun Gwers a Gweithgaredd Chwarae
Cludiant - Nodiadau Rieni a Gofalwyr
Arolwg Cyfrif Traffig
Mae gwastraff yn wastraffus, ac mae arnom ni angen gwneud mwy i leihau, ailddefnyddio ac ailgylchu ein gwastraff i greu adnoddau newydd.
Bydd y deunyddiau yn yr adran hon yn helpu ysgolion a chartrefi i nodi eu gwastraff, trefnu’r pethau y gellir ac na ellir eu hailgylchu, ac ystyried yr arferion sydd eu hangen arnom er mwyn bod yn fwy cynaliadwy ac yn llai gwastraffus.
Yn ogystal â hynny, mae gan NEWydd raglen 3 wythnos o’r enw ‘Bwyta Mwy, Gwastraffu Llai’, lle mae ysgolion yn pwyso eu gwastraff bwyd, codi ymwybyddiaeth i leihau gwastraff, a monitro cynnydd.
Ailgylchu - Cynllun Gwers
Ailgylchu - Cynllun Gwers a Gweithgaredd Chwarae
Ailgylchu - Nodiadau Rieni a Gofalwyr
Ailgylchu - Nodiadau i Athrawon